Sêl bendith i gam nesa
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Sêl bendith i gam nesa
Dydd Mawrth 28ain Ebrill, 2026
Sêl bendith i gam nesa cynllun ynni llanw Morlais
Mae penderfyniad rheoleiddio yr wythnos hon yn nodi carreg filltir bwysig arall i gynllun ynni llanw Morlais ar Ynys Môn.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymeradwyo cais gan Menter Môn Morlais Cyf i amrywio' ei drwydded forol bresennol, gan ganiatáu i wahanol fathau o dechnoleg llanw gael eu gosod ym mharth Morlais.
Mae'r amrywiad yn ymwneud â dyfeisiau Tidal Technologies Ltd ac yn hwb i datblygiad Morlais fel safle blaenllaw ar gyfer nifer o dechnolegau ynni llanw yn gweithredu o fewn un ardal drwyddedig.
Dywedodd Andy Billcliff, Prif Weithredwr Menter Môn Morlais: “Mae hwn yn benderfyniad cadarnhaol i ni, sy’n caniatáu i Morlais allu symud ymlaen, ac i osod dyfeisiau ynni llanw yn y môr maes o law. Mae'n adlewyrchu'r cynnydd cyson rydym wedi bod yn ei wneud ac yn cefnogi datblygiad ehangach y sector ynni llif llanw yma yng Nghymru.”
Mae Tidal Technologies yn un o bum datblygwr sydd eisoes wedi sicrhau capasiti i gynhrchu yn Morlais drwy rowndiau dyrannu cynllun Contractau Gwahaniaeth (CfD) Llywodraeth y DU. Yn gynharach eleni sicrhaodd Tidal Technologies 3 MW yn Rownd Dyrannu 7. Mae'r CfDs yn darparu cefnogaeth refeniw hirdymor ar gyfer cynhyrchu trydan carbon isel.
Dywedodd Jim Conybeare-Cross, Cyfarwyddwr ac un o sylfaenwyr Tidal Technologies: “Mae'r amrywiad i’r drwydded forol yn gam cyffrous ac arwyddocaol iawn ymlaen i'n cynlluniau ym Morlais. Mae'n galluogi cam nesaf y gwaith i symud ymlaen, gan agor y drws i arloesedd pellach a dod â ni'n agosach at gynhyrchu trydan glân oddi ar arfordir Ynys Môn.”
Fel un o brosiectau ynni llif llanw mwyaf y byd sydd wedi cael caniatâd, bydd Morlais yn defnyddio grym y llanw oddi ar arfordir Ynys Môn i gynhyrchu trydan glân. Gyda chapasiti cynhyrchu posibl o 240 MW, mae disgwyl i'r tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn 2027.
