Sicrwydd i Ddyfodol Ynni Glan

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Sicrwydd i Ddyfodol Ynni Glan

Dydd Mercher 19eg o Chwefror

Sicrwydd i Ddyfodol Ynni Glan ar Ynys Môn 

John Idris Jones, Cadeirydd, Menter Môn Morlais

Dyma erthygl ysgrifennodd ein Cadeirydd John Idris ar gyfer Business News Wales yn ddiweddar. 

Mae cynllun Morlais yn gam mawr ymlaen i uchelgais ynni adnewyddadwy Cymru, gan gynnig cyfle unigryw i ddatblygu sector ynni llanw flaengar. Gyda cherrynt llanw cryf oddi ar arfordir Caergybi a strategaeth glir i ganiatáu datblygiad, mae’r fantais gan Menter Môn o fod yn arloeswr  mewn maes eithaf newydd.

Mae’r buddsoddiad ecwiti diweddar o £8 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn gam hanfodol ymlaen er mwyn datgloi potensial llawn Morlais. Mae'r arian hwn yn ein galluogi i dderbyn buddsoddiad pellach gan Uchelgais Gogledd Cymru i gryfhau’r cyswllt grid ym Mharc Cybi ger tref Caergybi. Wrth wneud hynny, rydyn ni’n ei gwneud yn haws i ddatblygwyr i ddod a’u technoleg llanw i Gymru, trwy gael gwared ar y rhwystrau fydd yn y pen draw yn golygu y gallwn gynhyrchu ynni glan ac adnewyddadwy.

Un o brif gryfderau Morlais yw ein model gweithredu unigryw. Er mwyn sicrhau bod ynni llif llanw yn dod yn fasnachol hyfyw, mae datblygwyr angen sicrwydd. Heb Morlais, byddai datblygwyr technoleg unigol yn gorfod llywio cymhlethdodau caniatâd cynllunio, trwyddedu morol, a chysylltiadau grid trydanol ar eu pennau eu hunain. Trwy sicrhau'r caniatâd yma ymlaen llaw, rydyn ni wedi cael gwared â llawer o’r risgiau y byddai fel arall wedi arafu neu hyd yn oed atal buddsoddiad yn y sector. Mae hyn yn golygu y gall ddatblygwyr ganolbwyntio ar arloesi a gwella eu technoleg, yn hytrach na gorfod rheoli prosesau rheoleiddiol cymhleth o’r cam cyntaf.

Mae sicrhau bod budd Morlais yn mynd ymhellach na chynhyrchu ynni yn unig yn rhan bwysig o’n gweledigaeth. Mae Menter Môn wedi ymrwymo i gadw budd economaidd o fewn gogledd Cymru, ac mae hynny’n cynnwys creu mwy o gyfleoedd i fusnesau lleol. Mae gennym swyddog cadwyn gyflenwi sy’n gweithio’n agos gyda datblygwyr a chwmnïau lleol, gan hwyluso cyflwyniadau ac annog partneriaethau. Boed mewn gweithgynhyrchu uwch, peirianneg neu gyfrifiadura, mae’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer datblygu ynni llif llanw eisoes yn bodoli yma. Mae gan lawer o’r galluoedd hyn wreiddiau mewn diwydiannau fel Alwminiwm Môn a Wylfa, sy’n golygu bod gennym weithlu medrus sy’n barod i gyfrannu at y sector newydd a chyffrous yma. 

Nid ar y presennol yn unig y mae ein ffocws ond ar weithlu'r dyfodol hefyd. Rydyn ni’n cyd-weithio gydag ysgolion lleol, colegau, a phrifysgolion er mwyn arddangos y cyfleoedd mae’r sector yma’n ei gyflwyno. Bydd ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfaoedd mewn ynni llanw yn helpu i sicrhau bod gogledd Cymru yn parhau i arloesi mewn ynni adnewyddadwy am flynyddoedd i ddod.

Er bod Morlais yn ddaearyddol benodol i Gaergybi, mae ei heffaith yn ymestyn ymhell tu hwnt i’r un lleoliad yma. Mae llawer o safleoedd o amgylch Cymru gyda cheryntau llanw cryf tebyg, gan gynnwys Penmaen Dewi yn Sir Benfro, Ynys Enlli, a rhannau o sianel yr Hafren. Gall ein profiad gyda Morlais helpu i lunio prosiectau ynni llif llanw ar draws Cymru a thu hwnt yn y dyfodol, gan atgyfnerthu ein safle fel arweinydd yn y maes hwn.

Yn ogystal â cynhyrchu ynni, mae’r cyfleoedd economaidd yn sylweddol. Rydyn ni eisoes yn gweld diddordeb gan wneuthurwyr sy’n bwriadu sefydlu ar Ynys Môn i gynhyrchu tyrbinau llanw a thechnoleg gysylltiedig. Gyda’r gefnogaeth gywir, mae’n bosib y gallwn ddatblygu canolfan weithgynhyrchu yng Nghymru sy’n allforio datrysiadau ynni llif llanw ledled y byd. Mae ein harbenigedd mewn monitro amgylcheddol a defnyddio technoleg hefyd yn gallu creu swyddi o safon uchel yn yr economi wybodaeth, gan fod o fudd i’r ardal ehangach.

Mae hwn yn adeg gyffrous i Gymru. Gyda chefnogaeth gadarnhaol gan Lywodraeth Cymru a strategaeth glir ar gyfer uwchraddio o fewn y sector, mae gennym gyfle unigryw i arwain y ffordd mewn ynni llif llanw. Nid yw Morlais yn ymwneud â chynhyrchu trydan yn unig - mae'n ymwneud â chreu economi gynaliadwy, cefnogi busnesau lleol, a sicrhau swyddi hirdymor o safon. Gyda buddsoddiad a chydweithio parhaus, gallwn droi ein hadnoddau naturiol yn fudd economaidd ac amgylcheddol parhaol. 


Pob Newyddion