Trosglwyddo Safle
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Trosglwyddo Safle
Dydd Iau Chwefror 1af, 2024
Penllanw cytundeb £24miliwn – trosglwyddo safle ynni i berchennog newydd
Mewn carreg filltir bwysig i brosiect ynni llanw Ynys Môn, mae cwmni peirianneg, Jones Bros, wedi trosglwyddo safle is-orsaf yn swyddogol i berchennog y safle, Menter Môn Morlais Cyf. Mae'r cam arwyddocaol hwn yn nodi cwblhau cymal cyntaf y cynllun ynni adnewyddadwy yn llwyddiannus - o fewn yr amserlen a'r gyllideb.
Mae adeiladu'r is-orsaf yn rhan allweddol o'r seilwaith ar gyfer y datblygiad ynni llanw 240MW newydd hwn ac mae wedi bod yn ganolbwynt y cydweithio rhwng Jones Bros a Menter Môn Morlais. Mae cwblhau'r prosiect yn golygu y gall y prosiect symud i'r cam nesaf gyda pharatoadau ar y gweill ar gyfer gosod tyrbinau yn y môr o 2026.
Wedi cychwyn ar y safle, ger Caergybi yn ystod gwanwyn 2022, ac yn unol ag addewid Menter Môn, mae cynllun Morlais eisoes wedi darparu swyddi a chyfleodd hyfforddiant sylweddol. Roedd dros 70 o weithwyr Jones Bros yn gweithio ar y safle, gan gynnwys deg prentis – ac 86% o’r rhain yn dod o ogledd Cymru.
Gareth Roberts, Arweinydd Gweithredu Menter Môn Morlais Cyf sydd bellach yn gyfrifol am y safle. Wrth gymryd y safle drosodd dywedodd: “Rydym yn falch iawn o gyrraedd y pwynt yma yn natblygiad Morlais. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Jones Bros - o’r dechrau un mae eu record effeithlonrwydd a diogelwch wedi bod heb ei ail ac roedd ein gwerthoedd cyffredin o greu swyddi lleol yn golygu ein bod yn gallu cyflawni un o’n prif amcanion – sef sicrhau budd lleol o y prosiect pwysig hwn o dyddiau cynnar y cynllun.
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous wrth i ni symud i gam nesaf y cynllun, sef ymgysylltu â datblygwyr technoleg llif llanw i sicrhau ein bod yn gallu dechrau cynhyrchu trydan carbon isel yn y môr o 2026. Rydym eisiau ddiolch i’r gymuned leol hefyd am eu cydweithrediad yn ystod adeiladu’r is-orsaf, mae hwn yn brosiect rwy’n gobeithio y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono.”
Ychwanegodd Eryl Roberts, Cyfarwyddwr Contractau yn Jones Bros: “Rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan ganolog yn y prosiect hyd yma, ac mae’n wych gallu ei drosglwyddo’n swyddogol gan wybod ein bod wedi cyrraedd targedau amser a chyllideb.
“Roedd darparu cyfleoedd i weithwyr o’r gogledd, gan gynnwys prentisiaid, a’r gadwyn gyflenwi leol, hefyd yn bwysig i ni fel cwmni, ac fe wnaethom ni yn union hynny gyda’r gwaith yma. Diolch i Menter Môn Morlais Ltd a’r gymuned am eu cymorth a’u cefnogaeth.”
Roedd nifer o gwmnïau lleol eraill yn allweddol i’r rhan hwn o ddatblygu safle Morlais, gan gynnwys Cadarn Consulting ac OBR Construction – mae’r tîm yn Menter Môn Morlais Cyf yn awyddus i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith a’u proffesiynoldeb hefyd.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygiad Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Sir Ynys Môn, Cynllun Twf Gogledd Cymru, ac Awdurdod Datgomisynu Niwclear hefyd wedi cefnogi’r prosiect.