Weinidog ymweld â Môn
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Weinidog ymweld â Môn
Galw am gefnogaeth llywodraeth i ynni llanw wrth i Weinidog ymweld â Môn
Mae cefnogaeth llywodraeth yn hanfodol os yw ynni llanw am allu cyrraedd ei botensial o ran creu twf economaidd a sicrhau budd lleol. Dyna oedd neges Menter Môn Morlais yn ystod ymweliad Adam Price AS, Gweinidog Cabinet Llywodraeth Cymru dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, yr wythnos hon.
Yn ystod ei ymweliad â chynllun llanw Morlais oddi ar arfordir Ynys Môn, clywodd y Gweinidog sut y bydd y prosiect yn cyfrannu at ddyfodol ynni glân Cymru yn ogystal â’r cyfleoedd economaidd sy’n deillio o’r gwaith. Mae’r cynllun eisoes yn creu cyfleoedd i fusnesau lleol a phrentisiaid, a’r disgwyl yw y daw mwy wrth i’r prosiect ddatblygu.
Hwn oedd tro cyntaf i’r Gweinidog ymweld â Morlais a dysgu mwy am bwysigrwydd cynyddol ynni morol wrth i Gymru symud tuag at sero net. Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar botensial ynni’r llanw wrth gynhyrchu trydan adnewyddadwy dibynadwy, helpu i gyflawni’r uchelgais o ran hinsawdd a chryfhau sicrwydd ynni hirdymor y DU.
Wrth siarad yn ystod yr ymweliad, dywedodd Adam Price, Gweinidog Cabinet Llywodraeth Cymru dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: “Mae Morlais yn enghraifft wych o sut y gallwn ddefnyddio ein hadnoddau naturiol i adfywio’r economi, cynhyrchu ynni glân a sicrhau bod cymunedau’n ganolog i’r broses o symud tuag ati ynni adnewyddadwy.
“O gael ei ddatblygu mewn ffordd gynaliadwy, mae ynni llanw yn cynnig y potensial i gynhyrchu trydan glân dibynadwy, gan greu swyddi o safon, cryfhau cadwyni cyflenwi Cymru a sicrhau bod mwy o’r gwerth yn aros yn ein cymunedau. Ein nod yw sicrhau bod Cymru ar flaen y sector byd-eang hwn sy’n tyfu.”
Ychwanegodd John Idris Jones, Cadeirydd Menter Môn Morlais: “Roedden ni’n falch iawn o groesawu Adam Price i Morlais a dangos y cynnydd rydym wedi’i wneud yma dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ymweliad hwn yn un pwysig ac yn dangos y gydnabyddiaeth gynyddol sydd yna o rôl y llanw wrth gynhyrchu trydan, gan greu swyddi o safon a chyfleoedd i bobl leol.
“Fel prosiect sy’n cael ei arwain gan y gymuned, mae Morlais yn ymateb i’r angen am ynni glân, gan helpu i gryfhau’r economi leol a sicrhau bod y budd yn cael ei deimlo yma ar Ynys Môn.
“Mae Morlais yn helpu i roi Cymru a’r DU ar y map yn y sector ynni morol byd-eang. Ond, mae angen cefnogaeth barhaus i adeiladu ar y cynnydd hwn a chyrraedd ein potensial llawn.”
Y gred yn Morlais yw y byddai cefnogaeth barhaus gan y Llywodraeth yn galluogi’r prosiect i adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi’i wneud, ehangu’r cyfleoedd i gymunedau lleol a chryfhau safle Cymru yn y sector ynni morol
