Ymweliad Gweinidog â Morlais

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Ymweliad Gweinidog â Morlais

Dydd Gwener 12fed Medi, 2025

Ymweliad Gweinidog Sgiliau â Morlais yn dathlu cyfleoedd i bobl ifanc

Daeth Jack Sargeant AS, Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, i ymweld â chynllun ynni llanw Ynys Môn yn ddiweddar, i weld sut mae’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i edrych ar yrfaoedd ym maes ynni adnewyddadwy.

Ymunodd David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (PSRGC) ag o yn is-orsaf Morlais, a bwysleisiodd pwysigrwydd cysylltu talent lleol â’r cyfleoedd cynyddol yn y diwydiannau carbon isel.

Roedd yr ymweliad yn dilyn digwyddiad gyrfaoedd Gorwelion Gwyrdd: Grymuso Sgiliau’r Dyfodol a gynhaliwyd gan Menter Môn Morlais yn yr is-orsaf ger Caergybi yn gynharach yn y mis. Daeth dros 150 o ddisgyblion Blwyddyn 11 o ysgolion uwchradd Môn i’r digwyddiad, gan gwrdd â chyflogwyr lleol a dysgu am lwybrau gyrfa mewn secotrau gwyrdd.

Roedd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, Martin Noble a Bethan McCrohan o Babcock hefyd yn rhan o'r ymweliad, gan dynnu sylw at rôl cyflogwyr a gwasanaethau gyrfa wrth gefnogi pobl ifanc i edrych ar gyfleoedd i’r dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant: “Mae prosiectau fel Morlais yn dangos sut y gallwn ysbrydoli pobl ifanc i feddwl am ddyfodol mewn diwydiannau gwyrdd, tra hefyd yn creu cyfleoedd sy’n cefnogi cymunedau yma yng ngogledd Cymru. Mae sgiliau wrth wraidd y broses o drawsnewid i sero net, ac mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio â busnesau, ysgolion a phartneriaid rhanbarthol i sicrhau bod pobl ifanc yn gweld y rhain fel llwybrau gyrfa gyffrous.”

Croesawodd David Roberts ymweliad y Gweinidog a phwysleisiodd ei bod hi’n bwysig parhau i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa yn y sector carbon isel. Dywedodd: “Mae tynnu sylw at dwf diwydiannau gwyrdd yng ngogledd Cymru yn hanfodol os ydyn ni am arfogi pobl ifanc â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt a rhoi hyder i gyflogwyr yng ngweithlu'r dyfodol. Mae partneriaethau fel hyn yn dangos beth sy’n bosib pan fydd addysg, llywodraeth a diwydiant yn gweithio efo’i gilydd."

Ychwanegodd Fiona Parry, Swyddog Prosiect Sgiliau Menter Môn Morlais: “Roedden ni’n falch iawn o groesawu'r Gweinidog i Morlais heddiw ac i rannu gydag o sut mae prosiectau fel hyn yn gweithio efo ysgolion, cyflogwyr a phartneriaid i greu cyfleoedd i bobl ifanc. Mae ei ymweliad yn helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd buddsoddi mewn sgiliau gwyrdd, ac o'r potensial i Ynys Môn chwarae rhan flaenllaw yn yr economi carbon isel."

Morlais, sy'n cael ei redeg gan y fenter gymdeithasol Menter Môn, yw'r cynllun ynni llif llanw mwyaf yn Ewrop sydd eisoes wedi derbyn caniatâd. Yn ogystal â chynhyrchu trydan glân, mae Menter Môn Morlais wedi ymrwymo i sicrhau manteision hir dymor i gymunedau lleol – o greu swyddi a chefnogi cadwyni cyflenwi i helpu pobl ifanc i gymryd y camau cyntaf mewn gyrfa yn yr economi werdd.


Pob Newyddion