Ymweliad Stad y Goron

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Ymweliad Stad y Goron

Dydd Iau Chwefror 15fed, 2024

Cynllun ynni llanw Ynys Môn yn croesawu Stad y Goron

Daeth Prif Weithredwr Stâd y Goron, Dan Labbad ar ymweliad i isorsaf Menter Môn Morlais am y tro cyntaf yr wythnos hon. Aeth ar daith o’r safle i gael dealltwriaeth o’r datblygiad ynni llanw – y mwyaf o’i fath sydd wedi ei drwyddedu gan Stâd y Goron.

Roedd yr ymweliad yn gyfle i rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda Mr Labbad am gynnydd ar y safle yn ogystal â chamau nesaf y prosiect. Gyda’r isorsaf wedi’i chwblhau’n ddiweddar a gwaith yn mynd rhagddo ar y Prosiect Ymchwil Nodweddu Morol (MCRP) arloesol – roedd y tîm yn awyddus i ddangos sut mae Menter Môn Morlais yn parhau i arwain y ffordd mewn sector fydd yn chwarae rhan bwysig wrth ddatgarboneiddio ynni.

Sicrhaodd Menter Môn brydles Ystâd y Goron ar gyfer 35km2 o wely’r môr yn 2014 fel un o saith safle oedd wedi eu dynodi er mwyn hybu twf y sector ynni llanw yn y DU.

Dywedodd John Idris Jones, un o gyfarwyddwyr Menter Môn Morlais: “Wrth i ni symud i’r cam nesaf roedd yn wych gallu croesawu Mr Labbad a’i gydweithwyr ar y safle yn ystod eu hymweliad â gogledd Cymru. Roedd yn gyfle iddyn nhw weld drostynt eu hunain y cynnydd rydym wedi ei wneud, yn ogystal â sut y bydd gwaith yr MCRP i fonitro effeithiau posibl ar fywyd gwyllt yn llywio prosiectau ynni llanw yn y dyfodol.

“Gyda’r is-orsaf wedi’i chwblhau, rydym bellach yn gweithio’n agos gyda datblygwyr technoleg ynni llanw, cyflenwyr lleol, ac arbenigwyr yn y diwydiant – i’n cadw ar y trywydd iawn i osod y dyfeisiau cyntaf yn y môr o 2026. Mae Morlais yn brosiect unigryw, ac rydym yn falch o allu rhannu yr hyn rydym wedi ei gyflawni yma yn unol â bwriadwyd Stâd y Goron wrth ddynodi parthau arddangos dros 10 mlynedd yn ôl.”

Daw’r ymweliad cyn cyfnod prysur i dîm Morlais wrth iddynt baratoi ar gyfer lansio Cylch Dyrannu 6 (AR6) Llywodraeth y DU ar gyfer y cynllun Contractau Gwahaniaeth (CfD) a chynhadledd flynyddol Ynni Morol Cymru yn Abertawe.

Roedd yr ymweliad yn rhan o ddigwyddiad rhwydweithio ehangach a gynhaliwyd yn M-SParc, Gaerwen, oedd yn gyfle i randdeiliaid lleol ddysgu mwy am waith Stâd y Goron yng ngogledd Cymru.


Pob Newyddion