Myfyrwyr Ynys Môn
Cartref > Addysg > Hyfforddiant a Sgiliau > Myfyrwyr Ynys Môn
Myfyrwyr Ynys Môn yn derbyn hyfforddiant foltedd uchel
Mae myfyrwyr lleol wedi cwblhau hyfforddiant foltedd uchel arbenigol yn llwyddiannus fel rhan o'u profiad gwaith yr wythnos hon. Cafodd y disgyblion chweched dosbarth o Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch gyflwyniad i egwyddorion diogelwch allweddol, sgiliau technegol, a chyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â gweithio gyda systemau foltedd uchel. Fel rhan o’r cwrs, dysgodd y criw am amrywiol bynciau, gan gynnwys sut i adnabod risgiau foltedd uchel, gweithredu systemau gwaith diogel, cynnal gweithdrefnau ynysu a phrofi, defnyddio offer diogelwch yn gywir, ac ymateb i argyfyngau.
Dywedodd Mia Owen Hughes, disgybl yn Ysgol Syr Thomas Jones: “Ar ôl cael cwrdd â’r tîm yn Morlais mewn digwyddiad gyrfaoedd trwy raglen Seren, cefais fy ysbrydoli i ddod yma ar gyfer fy mhrofiad gwaith. “Rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod efo Morlais yn fawr ac yn awyddus i ddeall mwy am y gwahanol swyddi yn y maes yma."
Mae gweithio gydag ysgolion a cholegau yn rhan o ymrwymiad Menter Môn Morlais i ysbrydoli myfyrwyr i ystyried gyrfaoedd yn y sector ynni adnewyddadwy. Roedd un o’r myfyrwyr wedi cwblhau cynllun Ysbrydoli i Adeiladu yn ddiweddar, trwy’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol mewn cydweithrediad â Menter Môn, ac yn dilyn hynny dewisodd ymgymryd â’i brofiad gwaith gyda Morlais.
Dywedodd Gruff Parry, myfyriwr Ysgol Gyfun Llangefni: “Bydd y cyfleoedd y mae’r rhaglen 'Ysbrydoli i Adeiladu' a’r profiad gwaith ym Morlais wedi’u roi i mi yn werthfawr iawn pan fyddaf yn gwneud cais i’r brifysgol i astudio peirianneg ac wrth i mi feddwl am yrfa yn y diwydiant. Rydw i yn ddiolchgar iawn i'r tîm ym Menter Môn."
Cafodd yr hyfforddiant ei gyflwyno gan EDS HV Group, cwmni sy'n darparu hyfforddiant peirianneg foltedd uchel arbenigol i'r sector ynni adnewyddadwy.
Ychwanegodd Fiona Parry, Swyddog Prosiect Sgiliau a Hyfforddiant gyda Menter Môn Morlais: "Rydym yn hynod ddiolchgar i EDS HV Group am ddarparu'r cyfle hyfforddi gwerthfawr hwn a chefnogi ein hymrwymiad i annog pobl ifanc i ystyried gyrfaoedd yn y sector pwysig hwn sy’n parhau i dyfu."
