Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol

Cartref > Amdanom Ni > Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol

Mae’r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol (MCRP) yn brosiect ymchwil a datblygu arloesol a fydd yn sicrhau bod tyrbinau ynni’r llanw yn cael eu gosod yn ddiogel fesul cam ym mharth Morlais. Mae'r parth yn ardal 35km2 oddi ar Ynys Cybi , Ynys Môn sy'n cael ei datblygu gan Menter Môn.

Gan weithio gyda thîm o arbenigwyr, mae'r prosiect wedi datblygu Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol (EMMP)i ddiogelu bywyd gwyllt y môr. Bydd y canfyddiadau wedyn ar gael ar y Gyfnewidfa Data Morol (MDE) ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy yn y môr yn y dyfodol i alluogi twf ynni llanw.

Mae Menter Môn yn gweithio gyda rhwydwaith o academyddion a busnesau o amgylch y DU, i ddatblygu’r cynllun hwn ar gyfer y diwydiant, gan gynnwys:

  • Prifysgol St Andrews, Bangor ac Abertawe  
  • RSPB
  • Ocean Science Consulting
  • HR Wallingford
  • Subacoustech
  • MarineSpace 
  • Juno Energy
  • Seiche

Bydd gwaith r MCRP yn cyfrannu at ddatblygu a phrofi technolegau newydd megis sonar gweithredol, camerâu tanddwr, dyfeisiau atal acwstig a delweddu thermol ynghyd ag arolygu bywyd gwyllt morol lleol.

I gael rhagor o wybodaeth am yr MCRP, cysylltwch â'r tîm ar mcrp@mentermon.com