Jones Bros

Cartref > Cadwyn Gyflenwi > Astudiaethau Achos > Jones Bros

Mae Jones Bros Civil Engineering UK yn gwmni peirianneg sifil blaenllaw gyda phrofiad helaeth ar draws sawl sector. Penodwyd y cwmni i gyflawni gwaith seilwaith allweddol ar gyfer cynllun ynni llanw Morlais, Menter Môn. Sicrhaodd y cwmni gontract gwerth £24 miliwn i adeiladu'r is-orsaf a gosod y cebl tanddaearol sy'n cysylltu'r is-orsaf â Pharc Cybi.

Dechreuodd y gwaith yn ystod gwanwyn 2022 ac mae wedi'i gwblhau'n llwyddiannus ers hynny, gan nodi carreg filltir yn natblygiad y prosiect ynni adnewyddadwy arloesol hwn. Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, dyfarnwyd contract ychwanegol gwerth £10 miliwn i Jones Bros i gyflawni gwaith seilwaith ym Mharc Cybi, Caergybi. Bydd y cam hwn yn cefnogi ehangu capasiti grid y safle o 18MW, gyda'r potensial i ehangu i 240MW yn y dyfodol. Mae Menter Môn Morlais Cyf wedi datblygu perthynas waith cryf a chydweithredol â Jones Bros Civil Engineering UK drwy'r prosiect hwn.

Mae Menter Môn Morlais wedi ymrwymo i ddatblygu cadwyn gyflenwi ranbarthol gan sicrhau bod ynni llif llanw yn darparu manteision economaidd hirdymor i'r rhanbarth.

Dywedodd Eryl Roberts, Cyfarwyddwr Contractau yn Jones Bros: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein penodi i gyflawni’r gwaith ar gyfer cynllun ynni adnewyddadwy mor arloesol. Rydym yn angerddol am wneud effaith gadarnhaol drwy ynni adnewyddadwy, ac mae gan ein tîm hanes profedig o gyflawni prosiectau tebyg ar draws y wlad. Mae dod â’r arbenigedd hwn i Ynys Môn yn rhywbeth yr ydym yn falch o fod yn rhan ohono unwaith eto. Fel gyda’n holl brosiectau, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r gadwyn gyflenwi leol a chreu cyfleoedd i brentisiaid, ac edrychwn ymlaen at gyfrannu at gyflawni’r cynllun pwysig hwn yn llwyddiannus.”

  • Is-Orsaf
  • Adeiladu is-orsaf
  • JB

Pob Astudiaethau Achos