Digwyddiad Sioe Môn

Cartref > Cadwyn Gyflenwi > Digwyddiadau > Digwyddiad Sioe Môn

Ym mis Awst mynychodd tîm Morlais Sioe Môn ynghyd â phrosiectau ehangach Menter Môn. Ar ddiwrnod cyntaf y Sioe, cynhaliodd cynhyrchwyr llif llanw a’n Swyddog Cadwyn Gyflenwi, drafodaeth banel, gan ganolbwyntio ar y manteision economaidd allweddol a ddaw yn sgil cadwyn gyflenwi ranbarthol i Ogledd Cymru. Soniodd cynhyrchwyr llif llanw am y cyfleoedd sydd am ddod wrth iddynt weithio tuag at ddyfeisiadau sy'n mynd i'r dŵr o 2026 ymlaen gydag ystod eang o sectorau yn ofynnol. Roedd y gymuned leol a busnesau hefyd yn gallu dysgu sut y bydd y caffaeliadau’n cael eu hysbysebu drwy blatfform GwerthwchiGymru Llywodraeth Cymru. Cynghorir busnesau rhanbarthol i gofrestru ar restr bostio’r gadwyn gyflenwi i ddysgu am ddigwyddiadau a chyfleoedd pellach. Diolch arbennig i QED Naval, Hydrowing a Minesto am ddod i'r sesiwn.


Pob Digwyddiad