Adroddiad Ystâd y Goron
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Adroddiad Ystâd y Goron
Dydd Mercher 9fed Ebrill, 2025
Ymchwil Menter Môn yn sail i adroddiad Ystâd y Goron
Mae adroddiad newydd gan Ystâd y Goron yn tynnu sylw at y datblygiadau diweddaraf ym maes monitro amgylcheddol ar gyfer ynni llif llanw, gan dynnu ar ddata wedi ei gasglu gan Brosiect Ymchwil Nodweddu Morol (MCRP) yn Ynys Môn.
Mae'r adroddiad yn edrych ar sut mae'r sector ynni llanw yn ceisio gwella ddealltwriaeth o effeithiau amgylcheddol posibl dyfeisiau fel tyrbinau, gyda phwyslais yn benodol ar sut maen nhw'n rhyngweithio â bywyd gwyllt morol, gan gynnwys patrymau mudo a defnydd o gynefin. Mae'r adroddiad yn dod a ddata at ei gilydd o bob cwr o'r DU, gan gynnwys cyfraniad sylweddol gan yr MCRP, sydd wedi ei ddatblygu ochr yn ochr â chynllun ynni llanw Môn, sef Morlais. Mae'n edrych ar feysydd allweddol fel risg gwrthdrawiad, dadleoli rhywogaethau a'r dechnoleg monitro sy'n cael ei ddefnyddio gan gynlluniau ynni llanw. Y nod yw helpu i gefnogi datblygiad a cynnydd y sector i’r dyfodol.
Dywedodd Helen Roberts, Arweinydd Prosiect MCRP: "Mae'n wych gweld y gwaith rydyn ni wedi'i arwain arno yng Nghymru yn chwarae rhan mor allweddol ar lefel y DU. Mae'r MCRP wedi dod ag arbenigwyr sector, ymchwilwyr a rheoleiddwyr ynghyd i adeiladu darlun cliriach o sut mae dyfeisiau llif llanw yn gallu rhyngweithio efo’r amgylchedd - mae'r adroddiad hwn gan Ystâd y Goron yn ganlyniad o’r gwaith a’r ymdrech yma."
Mae'r MCRP yn rhan o bortffolio prosiectau ynni Menter Môn ac yn cael ei ariannu gan Ystâd y Goron a Asiantaeth Datgomisiynu Niwclear. Cafodd ei sefydlu i gefnogi datblygiad cyfrifol cynllun ynni llanw Morlais oddi ar arfordir Caergybi.
I’r hir dymor, bydd y canfyddiadau yn yr adroddiad yn helpu i lunio sut mae data yn cael ei rannu a'i drosglwyddo ar draws y sector ynni llanw, gan wneud gwell defnydd o'r dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli, lleihau dyblygu a hyrwyddo twf y sector.
Mae’r adroddiad llawn ar gael yma: Adroddiad Ystâd y Goron