Ail-lansio bwi

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Ail-lansio bwi

Dydd Mawrth Tachwedd 18fed, 2024 

Ail-lansio bwi – y cam nesaf o fonitro bywyd gwyllt i gynllun ynni llanw

Mae bwi casglu data sy'n gysylltiedig â chynllun ynni llanw Morlais ger Ynys Môn yn cychwyn ar ei ail daith yr wythnos hon wedi iddo gael ei lansio oddi ar yr arfordir ger Caergybi. Mae'r bwi, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Marinus LiDAR, yn rhan o waith ymchwil sylweddol er mwyn sicrhau bod mamaliaid ac adar morol yn cael eu diogelu wrth i Morlais ddod yn weithredol o 2026.

Defnyddiwyd y bwi yn y môr am y tro cyntaf gan y Prosiect Nodweddu ac Ymchwil Morol (MCRP), sy’n rhan o bortffolio ynni  Menter Môn, yn 2023. Bellach, yn dilyn gwaith profi ac adnewyddu mae Marinus yn gwbl weithredol eto, a bydd yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i barhau â'i rôl casglu data.

Fel rhan o hyn, mae systemau ac offer monitro a dadansoddi newydd wedi’u gosod yn llwyddiannus ar y bwi sy’n cynnwys cyfarpar delweddu sonar, monitro acwstig a delweddu fideo. Mae’r holl offer wedi'u gosod yn benodol i amodau lleol a byddant yn olrhain ymddygiad a phatrymau bywyd gwyllt yn yr ardal ble bydd dyfeisiau ynni llanw Morlais yn cael eu gosod.

Dywedodd Helen Roberts, Rheolwr Prosiect MCRP: "Mae hon yn garreg filltir bwysig arall i ni ac i'r sector ynni llanw.  Byddwn yn treialu’r dechnoleg dros y 12 mis nesaf, sy’n gam sylweddol ymlaen wrth i ni ddatblygu system fonitro a lliniaru effeithiol i ddiogelu mamaliaid morol ac adar môr, yn un y gallwn ei throsglwyddo i ddatblygiadau eraill fel Morlais. Rydym yn edrych ymlaen at ddadansoddi a rhannu ein canfyddiadau gyda chyfoedion ar draws y sector ynni llanw."

Bydd bwi Marinus hefyd yn casglu data amgylcheddol yn y safle a fydd yn cael ei gynnwys mewn fersiynau o Gynllun Monitro a Rheoli Amgylcheddol Morlais (EMMP) i’r dyfodol. Bydd y gwaith hefyd yn helpu i fireinio dyfeisiau monitro Deallusrwydd Artiffisial (AI) sy'n cael eu datblygu i sicrhau bod systemau yn cael eu diweddaru ac yn parhau i ddiwallu anghenion Morlais yn ogystal â'r diwydiant ynni llanw ehangach.

Bydd gwaith ymchwil a chasglu data amgylcheddol yn parhau drwy gydol oes prosiect Morlais. Mae cam nesaf y datblygiad wedi'i gynllunio ar gyfer 2025, pan fydd offer yn cael ei addasu i'w defnyddio ar dyrbin sydd wedi'i osod ar wely'r môr. Bydd y bwi yn aros yn ei leoliad ar y môr am 12 mis, a’r wybodaeth sy’n cael ei gasglu yn cael ei rannu â datblygwyr tyrbinau Morlais a'r diwydiant ynni llanw yn ehangach i gefnogi twf y sector.


Pob Newyddion