Bargen Sector Newydd
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Bargen Sector Newydd
Morlais yn croesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, i safle Morlais
Yr wythnos hon,cawsom y pleser o groesawu Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, i safle Morlais i lansio'r Fargen Sector Ynni Adnewyddadwy, sef cytundeb newydd Llywodraeth Cymru i ddatgloi potensial llawn ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae'r fargen sector yn gam pwysig wrth gyflymu twf ynni adnewyddadwy yng Nghymru ac ar draws y DU. I Morlais, mae'n cydnabod y rôl bwysig y gall cynlluniau ynni llif llanw ei chwarae wrth atgfnerthu diogelwch ynni, creu swyddi, a darparu manteision economaidd hirdymor i gymunedau lleol fel Ynys Môn.
Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio rhwng diwydiant, y llywodraeth a phartneriaid lleol er mwyn datgloi potensial llawn y sector. Roeddem yn falch o allu dangos sut mae partneriaethau cryf rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a’n cymunedau lleol yn bwysig iawn yn benodol o ran buddion i'r gymuned drwy swyddi, y gadwyn gyflenwi ac incwm ar gyfer cynlluniau lleol. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio ac adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni er mwyn sicrhau bod Morlais yn parhau i greu effaith gadarnhaol i Fôn a Chymru.
Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn:
“Mae’r Fargen Sector Ynni Adnewyddadwy yn gam pwysig wrth gyflymu twf ynni adnewyddadwy yng Nghymru ac ar draws y DU. I Menter Môn, mae’n cydnabod y rôl bwysig y gall cynlluniau ynni morol fel Morlais ei chwarae wrth gryfhau diogelwch ynni, creu swyddi o ansawdd uchel, a darparu manteision economaidd hirdymor i gymunedau lleol fel Ynys Môn.”
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
“Ein huchelgais yw dod yn arweinydd byd-eang mewn ynni adnewyddadwy, gan greu swyddi a thwf gwyrdd i wneud teuluoedd yng Nghymru yn fwy llewyrchus ac i helpu gyda chostau byw. “Mae'r gwrthdaro presennol yn y Dwyrain Canol wedi tynnu sylw ymhellach at bwysigrwydd annibyniaeth ynni. Bydd ein Bargen Sector Ynni Adnewyddadwy yn darparu sylfaen gref ar gyfer darparu ynni adnewyddadwy yn y dyfodol - er budd ein heconomi, ein hamgylchedd a diogelwch ynni."
“Mae prosiect Morlais yn enghraifft gref o sut y gall partneriaeth barhaus ddatgloi adnoddau ynni naturiol Cymru a’u trosi’n gyfleoedd economaidd parhaol i gymunedau a busnesau lleol."
I Morlais, mae’n cydnabod y rôl bwysig y gall cynlluniau ynni morol ei chwarae wrth gryfhau diogelwch ynni, creu swyddi o ansawdd uchel, a darparu manteision economaidd hirdymor i gymunedau lleol fel Ynys Môn.
