Croeso ym Môn i gyhoeddiad llywodraeth
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Croeso ym Môn i gyhoeddiad llywodraeth
Dydd Mawrth Medi 3ydd, 2024
Croeso ym Môn i gyhoeddiad llywodraeth ar ynni adnewyddadwy
Mae un o ddatblygwyr tyrbinau prosiect ynni llanw Morlais wedi derbyn 10MW yn ychwanegol fel rhan o arwerthiant AR6 (Allocation Round 6) ynni adnewyddadwy mwyaf diweddar Llywodraeth y DU.
Mae’r Contract Gwahaniaeth (Contract for Difference neu CfD) sydd wedi ei ddyranu i HydroWing, yn rhoi sicrwydd refeniw i’r datblygwr ar gyfer y trydan fydd yn ei gynhyrchu fel rhan o Morlais. Mae hefyd yn paratoi’r ffordd ar gyfer ehangu’r cynllun yn Ynys Môn, wrth i’r perchennog, Menter Môn Morlais gynllunio ei lwybr tuag at gapasiti cynhyrchu llawn o 240MW.
Mae Menter Môn wedi croesawu’r newyddion, ac yn ei weld fel arwydd o hyder yn y prosiect ar adeg allweddol yn ei ddatblygiad. Gyda’r is-orsaf ger Ynys Lawd, Caergybi wedi’i chwblhau’r llynedd, mae’r tîm bellach yn gweithio gyda darpar ddatblygwyr technoleg a chyflenwyr lleol i sicrhau’r budd mwyaf posib i’r ardal yn sgil Morlais.
Mae’r cyhoeddiad hefyd yn cael ei weld fel hwb i uchelgais Ynys Môn i arwain y sector ynni llanw ac yn arwyddocaol o ran denu buddsoddiad newydd i’r ardal.
Dywedodd John Idris Jones, Cadeirydd Menter Môn Morlais: “Rydym yn falch bod HydroWing wedi derbyn 10MW ychwanegol ar gyfer Morlais trwy AR6,c mae’n arwydd ein bod ni ar y trywydd cywir. Rydym yn dal i fod ar ddechrau ein taith ac yn gweld newyddion heddiw fel cam pwysig ymlaen wrth i ni dyfu’r prosiect i’w lawn botensial.
“Mae Morlais yn unigryw – gyda pherchnogaeth leol, rydym wedi cael ein gyrru o’r diwrnod cyntaf un gan uchelgais i sicrhau budd i Ynys Môn a gogledd Cymru – gan ddod â chyfleoedd busnes a chyflogaeth, yn ogystal ag enillion amgylcheddol. Drwy weithio gyda’n datblygwyr, mae gennym y potensial i ddenu dros £50 miliwn o fuddsoddiad i’r ardal, ac mae hyn wastad wedi bod yn ganolog i’n cynlluniau.”
Ychwanegodd Richard Parkinson, Rheolwr Gyfarwyddwr HydroWing: “Mae’r cais AR6 llwyddiannus yn benllanw ymdrech enfawr gan ein tîm i ddatblygu ffordd o ddefnyddio ynni’r llanw yn y ffordd mwyaf cost-effeithiol. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda Menter Môn Morlais a’n partneriaid cadwyn gyflenwi yn Ynys Môn I ddarparu pŵer glân a dibynadwy i’r grid.”
Cafodd y cynllun CfD ei sefydlu er mwyn darparu cefnogaeth llywodraeth i’r sector ynni adnewyddadwy yn y DU. Ynghyd â rhoi pris gwarantedig am drydan i ddatblygwyr, mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd llif llanw fel ffynhonnell ynni. Mae’r broses yn parhau, ac fe fydd Menter Môn yn parhau i gefnogi datblygwyr i baratoi ar gyfer y rownd ddyrannu nesaf yn 2025.
Morlais yw’r datblygiad ynni llanw mwyaf wedi ei ganiatáu yn Ewrop. Unwaith y bydd wedi cael ei adeiladu, mae ganddo’r potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan glân carbon isel. Mae disgwyl i’r tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn y môr yn 2026.
Mae’r prosiect wedi’i ariannu hyd yma gan Gronfa Datblygiad Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Sir Ynys Môn, Cynllun Twf Gogledd Cymru, yn ogystal â’r Awdurdod Datgomisynu Niwclear hefyd wedi cefnogi’r prosiect.