Cyflawni cynllun amgylcheddol
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Cyflawni cynllun amgylcheddol
Dydd Gwener Medi 13eg, 2024
Cyflawni cynllun amgylcheddol prosiect ynni llanw Môn
Mae’r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol (MCRP) sy’n cael ei arwain gan Menter Môn, wedi cyhoeddi bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau bod gofynion Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol (EMMP) Morlais wedi eu cwblhau yn llwyddiannus.
Yn gynllun a grewyd ar y cyd â rhanddeiliaid amgylcheddol a grŵp cynghori, mae’r EMMP yn elfen hollbwysig o’r drwydded forol a gafodd ei roi i’r prosiect ynni llanw. Mae’n sicrhau diogelwch mamaliaid morol, adar y môr, a physgod mudol drwy gydol y broses o osod dyfeisiau llanw yn ardal Morlais – a’r gobaith yw y bydd y cynllun yn gweithredu fel templed ar gyfer prosiectau ynni morol yn y dyfodol.
Mae’r MCRP eisoes wedi casglu data sylfaenol, a fydd ar gael trwy Gyfnewidfa Data Morol Ystâd y Goron. Bydd dadansoddi data yn barhaus yn cynnig diweddariadau i’r EMMP, gan alluogi cynlluniau ynni llanw i ehangu dros amser.
Dywedodd Helen Roberts, rheolwr prosiect MCRP: “Mae hyn yn newyddion gwych i ni ac yn ganolog i brosiect Morlais yma ar Ynys Môn. Trwy’r gwaith pwysig hwn, rydyn ni wedi gallu amlinellu sut i ddefnyddio’r dyfeisiau ynni llanw yn ddiogel, ochr yn ochr â thechnoleg monitro a lliniaru effeithiol sydd wedi’u dylunio er mwyn diogelu bywyd gwyllt y môr.
“Rydym yn gwybod bod gwaith i’w wneud o hyd, a byddwn yn parhau i dorri tir newydd yn ein dulliau ymchwil. Yr wythnos diwethaf, fe welsom ein system AI canfod mamaliaid ar waith, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu mwy o wybodaeth am ein gwaith a’n canfyddiadau dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”
Mae Menter Môn Morlais Ltd yn berchen ar, ac yn rheoli Morlais, gan gynnwys yr is-orsaf a gafodd ei gwblhau’n ddiweddar ar gyrion Caergybi. Nhw sydd yn dal y drwydded forol hefyd, sy’n golygu eu bod yn gyfreithiol gyfrifol am y prosiect. Mae disgwyl i’r dyfeisiau ynni llanw cyntaf gael eu defnyddio yn y môr o 2026.
Ariennir yr MCRP trwy Ystâd y Goron a’r Awsurdod Datgomisiynu Niwclear.