Cyhoeddiad y llywodraeth

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Cyhoeddiad y llywodraeth

Dydd Mercher 31ain o Orffennaf, 2024 

Morlais yn croesawu cyhoeddiad y llywodraeth ar ynni glân

Mae Menter Môn Morlais Cyf wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU heddiw y bydd yn cynyddu'r gefnogaeth i ynni adnewyddadwy o dros 50% i £1.5 biliwn wrth ddyrannu’r rownd nesaf contractau ar gyfer gwahaniaeth (contracts for difference). Fel rhan o hyn, mae £15 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer ynni llif llanw – sydd hefyd yn gynnydd o 50%.

System ‘contractau ar gyfer gwahaniaeth’ (CFD) yw prif fecanwaith y llywodraeth er mwyn cefnogi cynhyrchu trydan carbon isel. Mae'n sicrhau pris sefydlog wrth werthu pŵer dros gyfnod o 15 mlynedd, rhywbeth sy’n cael ei ystyried yn allweddol wrth ddenu buddsoddiad.

Mae’r hwb heddiw, ynghyd â‘r sylw sy’n cael ei roi i ynni llanw yn lansiad diweddar GB Energy wedi’i groesawu ac yn cael ei weld fel arwydd o hyder yn y sector ynni llif llanw a'r rôl y gall chwarae yng nghynlluniau'r llywodraeth i ddatgarboneiddio'r grid.

Dywedodd John Jenkins, un o gyfarwyddwr Menter Môn Morlais: "Mae'r cyhoeddiad yn dangos ymrwymiad y llywodraeth i ynni adnewyddadwy a'r hyder mewn technoleg llif llanw. Fel un o brosiectau ynni llanw mwyaf Ewrop,  rydym yn ymwybodol iawn o’r rhan bwysig all cynlluniau fel un ni ei chwarae wrth gynhyrchu trydan glân, ac fe ddaw yn gynyddol bwysig wrth i ni anelu at sero-net.

"I ni ar Ynys Môn mae arwyddocâd ychwanegol i’r cyhoeddiad, mae’n rhoi hyder i ddatblygwyr technoleg llanw sydd eisoes yn cydweithio efo ni yn Morlais i gynllunio ymlaen llaw i ehangu eu capasiti yma.  Rwy'n siŵr y bydd yn hyrwyddo arloesedd ac yn sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad yn y sector, yn ogystal ag annog datblygwyr newydd i edrych ar gydweithio efo ni."

"Fel gydag unrhyw brosiect o'r raddfa hon, rydyn ni ar daith, ac yn deall bod ffordd bell i fynd cyn y gallwn gyrraedd ein llawn botensial. Rydym yn benderfynol o fod yn flaenllaw yn y sector hwn fel y gallwn gyflawni'r hyn rydym wedi addo o’r cychwyn, sef budd lleol i’n cymunedau, yn economi a’r amgylchedd.

“Ac, er ein bod yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw, rydym yn galw ar y llywodraeth i wneud mwy ac i edrych ar sut y gall fynd ymhellach i hyrwyddo prosiectau fel Morlais."

Yn rhan o bortffolio ynni Menter Môn, mae Morlais yn cynnig model risg is i ddatblygwyr dyfeisiau ynni llanw i weithredu eu technoleg ar raddfa fasnachol. Gyda chapasiti cynhyrchu posib o 240 MW, mae'r cyhoeddiad diweddar ar gynnydd yn y cymorth ariannol yn cael ei weld fel cam pwysig tuag at gyflawni hyn.

Mae disgwyl canlyniadau'r cylch dyrannu CFD nesaf ym mis Medi fel rhan o’r hyn sy’n cael ei alw yn AR6 (allocation round 6).

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Llinos Medi, AS Ynys Môn: "Rydym yn hynod ffodus o'n hamgylchedd naturiol yma ar Ynys Môn a'r potensial o ran ynni llanw. Mae buddsoddi yn y sector hwn yn rhan allweddol o'n brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae prosiect Morlais wedi bod yn arwain y ffordd ers blynyddoedd lawer, gan ddod â budd i'n cymunedau yn lleol yn ogystal â'r amgylchedd."

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth, AS Ynys Môn: "Rwy'n falch o weld rôl bwysig ynni llanw yn parhau i gael ei chydnabod am ei gyfraniad i ddyfodol carbon isel. Mae gennym gyfle gwirioneddol yma drwy Morlais, nid yn unig i wneud y gorau o'r adnoddau naturiol o'n cwmpas ar Ynys Môn, ond i wneud hynny drwy fenter gymunedol fydd bob amser yn canolbwyntio ar sicrhau swyddi a budd lleol mwyaf posibl."


Pob Newyddion