Cysylltiad Lloeren i Ynys Lawd

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Cysylltiad Lloeren i Ynys Lawd

Dydd Mercher Awst 23ain, 2023

Cysylltiad Lloeren i Ynys Lawd

Mae cysylltiad symudol cyflym wedi cyrraedd ardal o harddwch naturiol boblogaidd ym Môn, diolch i gynllun gan Menter Môn Morlais Ltd. Yn sgil partneriaeth rhwng y cynllun ynni morol, Virgin Media O2, a Llywodraeth Cymru, mae Ynys Lawd bellach yn un o’r llefydd cyntaf yn y DU i elwa o dechnoleg lloeren newydd.

Roedd cysylltedd data a signal sâl yn gwneud bywyd yn anodd i fusnesau ac i ymwelwyr â’r ardal. A gyda’r gwaith ar Morlais hefyd yn mynd yn ei flaen ar y safle, roedd hyd yn oed mwy o angen sicrhau cysylltedd dibynadwy – nid yn unig i gefnogi’r tîm adeiladu ond hefyd i hwyluso’r gwaith o fonitro bywyd gwyllt morol. Mae’r dechnoleg lloeren Starlink yn sicrhau bod hyn yn digwydd gan ddod â chysylltiad symudol cyflym iawn i’r rhan yma o Ynys Cybi.

Gareth Roberts yw Pennaeth Gweithredu Morlais. Dywedodd: “Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi gallu sicrhau’r cyswllt yma i ardal Ynys Lawd trwy weithio gyda Virgin Media O2. Wrth i ni weithio ar ddatblygu cynllun ynni llanw Morlais, roedden ni’n gweld bod diffyg cysylltedd yn dod â heriau ychwanegol i ni,  felly fe wnaethon ni fynd ati i roi cysylltiad symudol i’r ardal.

“Mae’r dechnoleg newydd yn gwbl angenrheidiol wrth i ni fonitro bywyd gwyllt oddi ar arfordir Ynys Cybi, ac mae hefyd yn golygu fod gan y gweithwyr ar safle adeiladu’r is-orsaf gysylltiad ffôn dibynadwy. Ar ben hyn, mae’n wych fod busnesau lleol ac ymwelwyr hefyd yn gallu cael mynediad at eu data a gwasanaethau symudol yma – mae’n rhywbeth rydym i gyd yn dibynnu arno erbyn hyn, gan gynnwys ar gyfer diogelwch.”

Serch datblygiadau cadarnhaol o ran cysylltedd symudol, mae ardaloedd gwledig Cymru yn dal i gael eu gadael ar ôl o gymharu a chanolfannau trefol, gydag effaith negyddol i’w teimlo ar yr economi yn sgil hynny.  Nid yw Ynys Lawd yn wahanol. Fel rheol, mae angen cebl ffibr i gysylltu galwadau, negeseuon testun, a data i fastiau ffôn, ond mae hyn yn anodd mewn ardaloedd anghysbell. Gan ddefnyddio lloerenni orbit isel Starlink, gall cyflenwyr rhwydwaith ffonau symudol gysylltu mannau gwledig a helpu gau’r bwlch.

Dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething AS: “Mae’n wych gweld Virgin Media O2 a Wavemobile yn parhau i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu yng Nghymru, gan gefnogi prosiect ynni morol Morlais a mynd i’r afael ag ardal sydd â hanes o broblemau o ran cysylltiad ffôn. Nid yn unig mae dod â chysylltedd 4G dibynadwy i’r ardal yn gwella signal ffonau symudol yn sylweddol i ymwelwyr, y gymuned a busnesau lleol, mae defnyddio technoleg lloeren fel hyn yn sicrhau nad yw datblygiad Morlais yn cael effaith negyddol ar fywyd gwyllt morol.”

Mae’r gwaith adeiladu ar is-orsaf Morlais ger Ynys Lawd yn agosáu at gael ei orffen ac mae gosod ceblau i gysylltu â’r grid yn Parc Cybi eisoes wedi ei gwblhau. Mae disgwyl y bydd y tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn y môr erbyn 2026. Gyda’r potensial i dyfu i gapasiti cynhyrchu o  hyd at 240MW o drydan glân carbon isel, mae’r dechnoleg newydd yn caniatáu i Morlais ddatblygu yn raddol tra bod gwaith monitro bywyd gwyllt yn parhau.

Caiff Morlais ei ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cael ei gefnogi gan Gyngor Sir Ynys Môn, Cynllun Twf Gogledd Cymru, a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.


Pob Newyddion