Darlith Prifysgol
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Darlith Prifysgol
Dydd Iau 26ain Mawrth, 2026
Darlith wadd ym Mhrifysgol Bangor
Yr wythnos diwethaf, aeth Helen Roberts, Rheolwr Prosiect yr Amgylchedd a Chydymffurfiaeth, i brifysgol Bangor i roi darlith wadd. Dyma'r drydedd tro i Menter Môn gael eu gwahodd i Brifysgol Bangor i drafod cynllun ynni llanw Morlais a'r Prosiect Nodweddu ac Ymchwil Morol gyda myfyrwyr gwyddor amgylcheddol sy'n astudio modiwl ynni adnewyddadwy.
Rhoddodd Helen gyflwyniad i 30 o fyfyrwyr yn y drydedd flwyddyn, i'w dysgu nhw am ynni llanw a llwybrau gyrfa posibl yn y diwydiant sy'n tyfu. Prif ffocws y ddarlith oedd datblygiad Morlais dros y blynyddoedd, dyfeisiau ynni llanw a fydd yn cael eu defnyddio a'r gwaith sy'n cael ei wneud i fonitro ac amddiffyn y mamaliaid morol a'u hamgylchedd.
Dywedodd Helen Roberts, Rheolwr Prosiect yr Amgylchedd a Chydymffurfiaeth: "Mae'r sgyrsiau yma yn hanfodol i ddangos sut mae ymchwil, arloesedd a chyfrifoldeb amgylcheddol yn dod at ei gilydd mewn prosiectau byd go iawn."
Mae ymgysylltu â'r genhedlaeth nesaf yn rhan bwysig o'n gwaith ym Menter Môn, ac mae dychwelyd i Brifysgol Bangor yn atgyfnerthu pwysigrwydd cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant wrth lunio dyfodol ynni adnewyddadwy
