Digwyddiad Dal y Llanw
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Digwyddiad Dal y Llanw
Dydd Iau Mai 2il, 2024
Dal y llanw – cyfle i fusnesau fanteisio ar gyfleoedd datblygu
Daeth busnesau o bob cwr o ogledd Cymru i ddigwyddiad yn Isorsaf Morlais, Caergybi yr wythnos hon i hyrwyddo eu gwasanaethau i ddatblygwyr dyfeisiadau ynni llanw.
Mewn digwyddiad cyntaf o'i fath, rhannodd pedwar o'r cwmnïau sydd eisoes wedi sicrhau angorfa ym mharth ynni llanw Menter Môn Molrais, gyngor ar y cyfleoedd a sut gall busnesau lleol weithio gyda nhw. Clywodd mynychwyr hefyd ymrwymiad y datblygwyr i ddefnyddio cyflenwyr a gweithwyr lleol pan ddaw yn amser adeiladu a rhoi eu dyfeisiau ar waith ac wrth i Morlais symud i'r cam nesaf.
Mae un o gyfarwyddwyr Menter Môn, Gerallt Llewelyn Jones wedi bod yn sbardun y tu ôl i'r prosiect hwn ers y cychwyn. Agorodd y digwyddiad yr wythnos hon gan amlinellu ei weledigaeth ar gyfer Morlais a sut mae sicrhau budd lleol wedi gyrru’r cynllun o'r diwrnod cyntaf.
Dywedodd: "Roedd heddiw yn benllanw blynyddoedd o waith caled ac roedd yn wych gweld cymaint o fusnesau lleol yn ymgynnull yn ein isorsaf i glywed yn uniongyrchol gan y datblygwyr eu hunain, yr ystod o gyfleoedd fydd ar gael yma. Byddwn yn cynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol, ac rwy’n awyddus i annog cwmnïau lleol i gofrestru a mynychu er mwyn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ennill contractau sy'n gysylltiedig â Morlais."
Yn rhan o’r digwyddiad yn ogystal, cafwyd panel trafod wedi ei gadeirio gan Simon Cheesman, arweinydd sector ynni llanw a thonnau gyda Offshore Renewable Energy (ORE) Catapult. Wrth edrych yn ôl ar sgyrsiau'r diwrnod, dywedodd: "Mae cysyniad Morlais fel cynllun sydd wedi sicrhau caniatâd a rhoi isadeiledd yn ei le ar gyfer datblygwyr yn un unigryw ac yn gam pwysig i’r sector. Mae'n golygu bod cwmnïau dyfeisiadau ynni llanw yn gallu canolbwyntio ar ddatblygu eu technoleg, ac hefyd yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer cydweithio – gyda'i gilydd a gyda busnesau a phartneriaid lleol.
"Mae gan ynni llanw botensial enfawr ar gyfer busnesau yr ardal. A nid dim ond cyfleoedd peirianyddol fydd yma, rydym wedi clywed heddiw yr ystod o wasanaethau a chymorth y bydd eu hangen. Fel y mae Morlais yn denu buddsoddiad, bydd Caergybi fel tref porthladd hefyd yn elwa ac edrychwn ymlaen at weld effaith gadarnhaol hynny ar draws llawer o sectorau a diwydiannau.”
Bydd y digwyddiad cadwyn gyflenwi nesaf yn cael ei gynnal yn Llangefni ar 23 Mai, a chyfres o weithgareddau ymgysylltu wedi'u cynllunio wedyn ar draws gogledd Cymru. Mae busnesau yn cael eu hannog i gymryd rhan ac i gofrestru ar wefan Morlais i dderbyn y diweddaraf am y cynllun a digwyddiadau cadwyn cyflenwi.