Digwyddiad rhwydweithio ynni llanw

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Digwyddiad rhwydweithio ynni llanw

Dydd Mercher Hydref 9fed, 2024 

Digwyddiad rhwydweithio ynni llanw yn gwahodd busnesau ar draws Gogledd Cymru

Gwahoddir busnesau ledled y rhanbarth i ddigwyddiad rhwydweithio i ddysgu am gyfleoedd cadwyn gyflenwi sy’n gysylltiedig â datblygu ynni llanw yng Ngogledd Cymru, Morlais.

Wedi’i lleoli yn Ynys Môn, mae Morlais yn gynllun ynni llanw sy’n cael ei redeg gan Menter Môn. Bydd y datblygiad yn gweld tyrbinau llanw yn cael eu defnyddio yn yr ardal, sydd â’r potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan glân carbon isel.

Mae Morlais wedi symud ymlaen yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae sawl cwmni eisoes wedi’u trefnu i ddefnyddio eu dyfeisiau o 2026 ymlaen. O ganlyniad, bydd galw cynyddol am gyflenwadau a gwasanaethau gan fusnesau ledled y rhanbarth i gwrdd â’r cyfleoedd hyn.

Chloe Jones yw Swyddog Cadwyn Gyflenwi Menter Môn ac mae'n awyddus i fusnesau ymuno â'r digwyddiad i ddysgu mwy. Dywedodd: "Mae ein digwyddiadau rhwydweithio mor bwysig i rannu gwybodaeth am y cyfleoedd a fydd ar gael unwaith y bydd y datblygwyr wedi defnyddio eu technoleg ym mharth Morlais. Efallai y bydd busnesau eisoes yn gwybod y bydd galw ychwanegol am wasanaethau fel peirianneg, gweithgynhyrchu a logisteg; fodd bynnag, mae gwasanaethau ychwanegol fel adnoddau dynol, lletygarwch, bwyd a diod, cymorth cyfreithiol, a mwy na fydd pobl efallai'n ymwybodol ohonynt.

"Bydd y digwyddiadau'n rhoi trosolwg o'r cyfleoedd sydd ar gael, cefnogaeth gyda'r broses gaffael a'r cyfle i rwydweithio â busnesau eraill yn y rhanbarth. Er bod Morlais wedi'i leoli yn Ynys Môn, bydd y datblygwyr angen gwasanaethau gan fusnesau ar draws y rhanbarth - felly dewch draw os hoffech wybod mwy."

Un o'r datblygwyr fydd yn gweithio ym Morlais yw Hydrowing. Yn wreiddiol o Gernyw, mae Hydrowing bellach wedi’i leoli yn Sir Fôn ac wedi agor swyddfa newydd yn M-Sparc, Gaerwen yn ddiweddar a gweithdy ar yr ystâd ddiwydiannol gerllaw. Bydd eu Rheolwr Masnachol, Osian Roberts, yn mynychu rhai o’r digwyddiadau hyn ac yn gyffrous i gwrdd â busnesau lleol a darpar gyflenwyr yn y dyfodol.

“Mae’n bwysig i’n hethos ein bod yn deall ac yn gweithio gyda’r gadwyn gyflenwi leol. Rydym yn gobeithio, drwy fynychu’r digwyddiadau hyn, y gallwn siarad yn uniongyrchol â’r bobl hyn a rhannu o lygad y ffynnon pa wasanaethau fydd eu hangen yn y dyfodol.”

Mae lleoedd yn y digwyddiadau yn gyfyngedig, a gofynnir i fusnesau archebu lle cyn gynted â phosibl. Cynhelir chwe sesiwn, un ym mhob ardal awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru, ac maent yn rhedeg o’r 14eg o Hydref i’r 5ed o Ragfyr.

I gofrestru: https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/morlais-rhwydweithio-rhanbarthol/


Pob Newyddion