Dyfodol cynaliadwy

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Dyfodol cynaliadwy

Dydd Mercher Mawrth 6ed, 2024 

Morlais yn arwain cydweithio ar gyfer dyfodol cynaliadwy

gan Andy Billcliff Prif Weithredwr Menter Môn Morlais Ltd

Mae'n fis prysur i'r sector ynni gwyrdd. Yn ogystal â chynhadledd flynyddol Ynni Morol Cymru (MEW), mae 6ed rownd arwerthiant ynni adnewyddadwy Llywodraeth y DU ar gyfer Contractau Gwahaniaeth (CfD) wedi ei lansio fel rhan o’r gyllideb.

I'r rhai ohonom sy’n gweithio yn y sector, mae'n gyfnod allweddol. Y CfD yw prif fecanwaith y llywodraeth ar gyfer cefnogi cynhyrchu trydan carbon isel. Yn ein hachos ni, mae'n rhoi pris gwarantedig i ddatblygwyr trawsnewidyddion ynni llanw am y trydan y bydden nhw’n ei gynhyrchu ym Morlais.

Mi fydd llawer o ddisgwyl am y canlyniad, sy’n debygol o gael ei gyhoeddi ddechrau fis Medi. I lawer yn y diwydiant bydd yn golygu'r gwahaniaeth rhwng hyfywedd ac ansicrwydd. I ni, byddai canlyniad cadarnhaol yn anfon neges glir o hyder i'n rhanddeiliaid - o ddatblygwyr technoleg llanw sydd eisoes wedi ymrwymo i weithio efo ni, i ddarpar fuddsoddwyr a phartneriaid.

Fel unrhyw brosiect o’r raddfa yma, mae’n daith, ac mae pob rownd dyrannu CfD yn gam pellach ar gyd y llwybr. Mae rowndiau blaenorol eisoes wedi sicrhau cyfanswm o 28MW i'n datblygwyr, gan roi sicrwydd iddyn nhw ynghylch eu buddsoddiad. Ond gyda photensial i gynhyrchu hyd at 240 MW, rydym yn ymwybodol iawn bod ffordd bell i fynd a bod llawer o waith i’w wneud.

Mae canlyniad llwyddiannus yn AR6 yn dibynnu ar ein hymdrechion ar y cyd i gefnogi a hwyluso datblygiad ddiwydiant sy’n dal i fod yn gymharol newydd. Yn Morlais, rydym yn benderfynol, o arwain y ffordd fel y gallwn gyflawni'r hyn yr oedden ni’n ei fwriadu o’r dechrau – sef darparu budd lleol ac ychwanegu gwerth drwy'r gadwyn gyflenwi, ein cymunedau a'r amgylchedd.

Rydym yn llawn sylweddoli beth yw arwyddocâd AR6 – mae dal angen i ni gael dyfeisiau yn y dŵr i gynhyrchu trydan er mwyn sicrhau'r gwerth ychwanegol hwnnw. Fel cwmni mae Menter Môn Morlais Cyf yn berchen ar isadeiledd Morlais, gan gynnwys yr is-orsaf newydd. Ni hefyd sy’n dal y drwydded forol. Mae hyn yn golygu mai ni sy’n gyfreithiol gyfrifol am y prosiect. Ond nid ydym yn gweithio ar ein pennau ein hunain o bell ffordd. Mae cydweithio wedi bod yn rhan o’n gweledigaeth o'r cychwyn cyntaf.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cyllidwyr a'n partneriaid lleol, llywodraeth ar bob lefel, Stâd y Goron a rhanddeiliaid ehangach. Cam diweddar i hwyluso gweithio mewn partneriaeth yw sefydlu Cyngrair Morlais, grŵp sy'n cynnwys ein datblygwyr, Llywodraeth Cymru, MEW, Busnes Cymru, Offshore Energy Alliance a Catapult Offshore Renewable Energy. Y nod yw cefnogi datblygwyr dyfeisiadau ynni llanw i gydweithio mewn meysydd blaenoriaeth i leihau costau a risg, yn ogystal â sicrhau ein bod yn gallu rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf i bob partner am faterion ynni'r llanw. Mae hyn yn cynnwys AR6 wrth gwrs.

Mae llwyddiant hirdymor i ni wrth sicrhau megawats ychwanegol yn golygu y gallwn fod wrth galon diwydiant ynni llif llanw yng Nghymru, yn cyflogi pobl leol, tyfu cadwyn gyflenwi gref ac arbenigedd ymchwil. Mae Cynghrair Morlais yn rhan o hyn, felly hefyd y Prosiect Ymchwil Nodweddu Morlais (MCRP). Yn brosiect arall ym mhortffolio Menter Môn, mae MCRP wedi'i gynllunio i gefnogi datblygiad y sector ynni adnewyddadwy. Mae'n ddolen hanfodol i sicrhau bod Morlais a chynlluniau tebyg yn fyd-eang yn cael eu datblygu mewn ffordd sy'n diogelu cynefinoedd a bywyd gwyllt.

Fel Morlais, mae MCRP wedi derbyn cyllid gan WEFO, NFS/NDA a Stâd y Goron. Mae'r tîm yn gweithio gydag arbenigwyr ac ymchwilwyr blaenllaw o'r byd academaidd a diwydiant, gan ddefnyddio technoleg arloesol i fonitro a llunio cronfeydd data i gefnogi defnydd dyfeisiau ynni llanw a'r sector ynni morol yn ehangach. Bydd yr holl ddata sy’n cael ei gasglu nid yn unig ar gael i Morlais, ond hefyd i ddatblygiadau eraill o’r math yma ar draws y byd.

Gyda heriau sy'n wynebu’r hinsawdd ac economi gwledydd ar draws y byd, ynghyd ag ansicrwydd mwy diweddar ynghylch diogelwch ynni, mae cynlluniau fel Morlais yn hanfodol. Mae gweithio gyda'n gilydd hefyd yn dod yn bwysicach. Rydym wedi dweud ers tro bod Morlais yn brosiect lleol sydd â pherthnasedd byd-eang, mae hyn yn fwy cywir nag erioed ac yn tanlinellu ein cyfrifoldeb ar y cyd wrth lunio dyfodol mwy cynaliadwy.


Pob Newyddion