Gofynion polisi Morlais

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Gofynion polisi Morlais

Dydd Llun 15fed Ragfyr, 2025 

Gofynion polisi Morlais ar gyfer llywodraeth nesaf Cymru   

Mae Morlais wedi cyhoeddi ei faniffesto ar gyfer etholiad Senedd 2026, gan nodi gweledigaeth flaengar ar gyfer polisi, cyllid a chefnogaeth seilwaith. 

Mae’r maniffesto yn annog Llywodraeth nesaf Cymru i gymryd camau pendant a gwneud ynni llanw yn rhan greiddiol o’n dyfodol ynni.  

Mae'r maniffesto yn nodi pum gofyn allweddol: 

  • Hyrwyddo ynni adnewyddadwy cymunedol  

  • Buddsoddi mewn sgiliau a chadwyni cyflenwi lleol  

  • Cryfhau cefnogaeth seilwaith a grid  

  • Darparu cyllid sefydlog a hirdymor  

  • Rhoi ynni’r môr wrth wraidd strategaeth sero net Cymru  

Ddwedodd Andy Billcliff, Prif Weithredwr Menter Môn Morlais: 

“Mae gan Cymru’r potensial i fod yn arweinydd byd-eang mewn ynni llanw ond mae gwireddu’r potensial hwnnw angen ymrwymiad gwleidyddol. Mae Morlais yn dangos beth all cynllun ynni sy’n eiddo i’r gymuned ei gyflawni. Gyda’r gefnogaeth iawn gan lywodraeth nesaf Cymru, gallwn ddarparu pŵer glân a sicrhau manteision economaidd lleol trwy gyfleoedd y gadwyn gyflenwi a chreu swyddi” 

Mae Morlais eisoes wedi cwblhau seilwaith ar y tir, wedi sicrhau caniatâd, ac mae’n paratoi i osod tyrbinau yn y môr o 2027. Mae’r cynllun yn parhau i flaenoriaethu budd economaidd lleol, cyfrifoldeb amgylcheddol, ac ymchwil forol arloesol. 

Maniffesto Morlais 


Pob Newyddion