Gwobrau Adeiladu’r DU

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Gwobrau Adeiladu’r DU

Dydd Llun Tachwedd 11eg, 2024 

Ynni llanw Morlais yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Adeiladu’r DU

Mae prosiect ynni llanw Morlais, wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau Adeiladu Rhagoriaeth (CEW), i'w gynnal yn Llundain ar 15 Tachwedd. Ar ôl ennill mewn dau gategori, sef ‘Gweithredu dros Hinsawdd’ a ‘Prosiect Seilwaith y Flwyddyn’ yn y rownd Gymreig, bydd Morlais yn cynrychioli Cymru ar lwyfan Brydeinig, gan gystadlu yn erbyn prosiectau seilwaith mawr o bob cwr o’r DU. Yn fenter gymdeithasol, Menter Môn Morlais Cyf yw'r unig brosiect ynni adnewyddadwy i gyrraedd y rownd derfynol ac mae'n un o ddim ond dau brosiect o ogledd Cymru. Mae Morlais eisoes yn sefyll allan fel y cynllun ynni llif llanw mwyaf yn Ewrop sydd wedi ei ganiatáu, gyda chapasiti cynhyrchu posibl o 240MW. Unwaith yn weithredol, bydd yn defnyddio cerrynt llanw oddi ar arfordir Ynys Môn i gynhyrchu trydan adnewyddadwy, gan leihau'r ddibyniaeth ar danwydd ffosil a chefnogi swyddi lleol a thwf economaidd.

Mae John Idris Jones, Cadeirydd Bwrdd Morlais, yn mynychu'r digwyddiad yr wythnos hon gydag aelodau o dîm Morlais, meddai: "Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Adeiladu Rhagoriaeth 2024. Mae'r gydnabyddiaeth yma yn pwysleisio’r effaith y gall Morlais ei gael fel datblygiad cynaliadwy. Rydym yn falch iawn o gynrychioli Ynys Môn a Chymru yn Llundain, ac yn gobeithio ysbrydoli eraill gyda'n hymrwymiad i ddyfodol mwy gwyrdd ac wrth greu cyfleoedd economaidd sydd o fudd i'n cymunedau lleol."

Ychwanegodd: "Mae ein partneriaeth gyda Jones Bros Civil Engineering yn rhan o'r weledigaeth hon i greu economi gynaliadwy yng Ngogledd Cymru hefyd – gan ddarparu swyddi a hyfforddiant yn lleol. Yn fusnes lleol arloesol ac uchel ei barch, Jones Bros oedd yn gyfrifol am arwain y cytundeb i adeiladu ein is-orsaf."

Ychwanegodd Huw Jones MBE, cadeirydd Jones Bros DU: "Mae cyrraedd rownd derfynol y DU ar gyfer Prosiect Seilwaith y Flwyddyn yn wych i'n busnes a'r bartneriaeth gyda Menter Môn. Mae'r gydnabyddiaeth gan CEW yn dyst i'r gwaith tîm a'r ymroddiad ar y cyd sydd wedi sicrhau bod y prosiect yn un llwyddiannus. Rydym yn falch ein bod wedi cyfrannu at gynllun mor arloesol ac yn mynychu’r digwyddiad hwn."

Gyda rownd derfynol y DU dim ond ychydig ddyddiau i ffwrdd, mae tîm Morlais yn edrych ymlaen at rannu effaith gadarnhaol y prosiect ar ynni adnewyddadwy a datblygu cymunedol.


Pob Newyddion