Llwyddiant CfD
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Llwyddiant CfD
Dydd Mawrth Medi 12fed, 2023
Hwb sylweddol wrth i ddatblygwyr Morlais sicrhau pris am eu trydan
Mae pedwar o ddatblygwyr tyrbinau sy’n gysylltiedig â phrosiect ynni llanw Morlais ar Ynys Môn wedi derbyn Contractau Gwahaniaeth (Contracts for Difference neu CfD) fel rhan o arwerthiant ynni adnewyddadwy mwyaf diweddar Llywodraeth y DU, AR5.Yn sgil y cytundebau, mae’r datblygwyr yn cael sicrwydd refeniw o’r trydan y byddent yn ei gynhyrchu fel rhan o’r cynllun. Mae Morlais wedi croesawu’r newyddion fel cam hynod gadarnhaol sy’n dangos hyder yn y prosiect ar adeg pwysig yn ei ddatblygiad, gyda gwaith adeiladu is-orsaf ger Ynys Lawd bron â’i gwblhau.Mae tri o’r datblygwyr wedi derbyn cytundebau am y tro cyntaf, tra bod Magallanes wedi sicrhau estyniad o 3MW i’r dyraniad a gawsant yn rhan o AR4, y llynedd. Mae’r cyhoeddiad yn golygu bod datblygwyr tyrbinau ym mharth Morlais bellach wedi llwyddo i sicrhau cyfanswm o 28MW sy’n ddigon o drydan ar gyfer holl eiddo domestig Môn.Mae’r cyhoeddiad hefyd yn hwb i uchelgais Ynys Môn i fod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer ynni llanw ac mae’n cael ei ystyried yn arwyddocaol o ran denu buddsoddiad newydd i’r ardal i’r dyfodol.
Dywedodd Gerallt Llywelyn Jones, Cyfarwyddwr Morlais: “Mae hyn yn newyddion gwych i ni ym Morlais ac i’r sector ynni llanw Cymreig. Dyma gam sylweddol sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer y defnydd masnachol cyntaf o dechnoleg llif llanw yng Nghymru. Mae’n rhoi sylfaen gadarn i’n cynllun yma yn Ynys Môn wrth i ni symud ymlaen i gam nesaf y prosiect. Drwy weithio gyda’r datblygwyr mae gennym bellach y potensial i ddenu dros £50 miliwn o fuddsoddiad i’r ardal a chreu cyfleoedd swyddi lleol. Mae hyn wastad wedi bod yn ganolog i’n cynlluniau ar gyfer y prosiect.”
Mae’r newyddion yn golygu bod y 4 datblygwr nawr mewn sefyllfa i weithio gyda’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru wrth iddynt baratoi i osod eu technoleg yn y môr oddi ar arfordir Ynys Cybi.
Ychwanegodd Richard Parkinson, Rheolwr Gyfarwyddwr HydroWing, un o’r cwmnïau llwyddiannus: “Mae’r cais AR5 yn benllanw ymdrech enfawr gan ein tîm i wneud defnydd effeithlon o ynni llanw ar gyfer Morlais. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda Menter Môn a’n partneriaid cadwyn gyflenwi yn Ynys Môn i gyflenwi ein 10MW cyntaf o bŵer glân a rhagweladwy i’r grid yn Ynys Môn.”
Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James AS: “Mae’r cynlluniau hyn yn gam pwysig ymlaen i gyflawni ein hymrwymiadau ar ynni gwyrdd ac yn adlewyrchu gwaith caled y partneriaid niferus sy’n gweithio ar Ynys Môn, ynys ynni Cymru.”
Cafodd y cynllun CfD ei sefydlu er mwyn darparu cefnogaeth llywodraeth i’r sector ynni adnewyddadwy yn y DU. Ynghyd â rhoi pris gwarantedig am drydan i ddatblygwyr, mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd llif llanw fel ffynhonnell egni ddibynadwy. Mae’r broses yn parhau ac mae disgwyl i’r cylch dyrannu CfD nesaf, AR6 gael ei gyhoeddi yn y gwanwyn 2024.
Morlais yw datblygiad ynni llanw mwyaf wedi ei ganiatáu yn ty DU. Unwaith y bydd wedi ei adeiladu, mae ganddo’r potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan glân carbon isel. Ers i Menter Môn ennill prydles Ystâd y Goron i reoli’r parth 35km2 yn 2014, sicrhau swyddi lleol a hybu’r economi leol yw’r prif amcanion wedi bod. Yn unol â’r caniatâd ar gyfer y cynllun, bydd y gwaith adeiladu a gweithredu’n digwydd fesul cam i alluogi monitro’r effaith ar fywyd gwyllt a chynefin a bydd Morlais yn gweithio’n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn hyn o beth.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygiad Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Sir Ynys Môn, Cynllun Twf Gogledd Cymru, ac Awdurdod Datgomisynu Niwclear hefyd wedi cefnogi’r prosiect.
Y cwmnïau sydd wedi derbyn CfD yn ystod AR5 ydi:
- Hydrowing, Inyanga Marine Projects. Wedi eu lleoli yn Falmouth, mae’r cwmni wedi cwblhau Prosiectau Ynni Llanw i ddatblygwyr llwyddiannus. Yn gyfarwydd gyda Ynys Môn diolch i’w gwaith gyda Minseto, mae Inyanga yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth dibynadwy i ddatblygwyr. Mae’r cwmni wedi sicrhau pris ar gyfer hyd at 10MW o drydan.
- Môr Energy, QED Naval. Mae’r cwmni wedi bod yn gweithredu ers 2008. Mae’r tyrbinau gaiff eu defnyddio yn Morlais yn dyrbinau diwydiannol maint canolig sydd gan y gallu i gynhyrchu rhwng 100KW a 250KW o drydan. Mae’r cwmni wedi sicrhau pris ar gyfer hyd at 9MW o drydan.
- Verdant Power. Gyda mwy na 20 mlynedd o brofiad, mae’r cwmni yn cynhyrchu trydan trwy’r llanw mewn dull sydd o’r radd flaenaf. Mae Verdant yn gosod nifer o dyrbinau yn llwyr o dan y môr nad oes modd eu gweld o’r arwyneb. Roedd y cwmni yn ran o brosiect RITE sef y prosiect ynni llanw cyntaf i gael trwydded masnachol yn yr Unol Daleithiau ac mae wedi sicrhau pris ar gyfer hyd at 5MW o drydan wedi eu gynhyrchu fel rhan o Morlais.
- Magallanes Renovables. Wedi ei sefydlu yn Sbaen yn 2009, fe wnaeth y cwmni sicrhau pris yn AR4 o CfD yn 2022. Mae’r datlbygwyr ynni llanw yn canolbwyntio ar ddatblygu a masnachu systemau ynni llanw sy’n arnofio. Y tro hwn, fe wnaeth Magallanes sicrhau pris am 3MW o drydan.