Morlais a Leask Marine
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Morlais a Leask Marine
Dydd Iau 12fed Rhagfyr, 2024
Cydweithio Morlais a Leask Marine yn allweddol
Cyrhaeddodd y bartneriaeth rhwng Menter Môn Morlais Cyf ac arbenigwyr peirianneg forol, Leask Marine, garreg filltir arall yn ddiweddar gydag ail-lansio bwi Marinus LiDAR. Wedi'i leoli oddi ar yr arfordir ger Caergybi, bydd y bwi yn chwarae rhan hanfodol wrth fonitro bywyd gwyllt morol ac amodau amgylcheddol fel rhan o brosiect ynni llanw Morlais.
Leask Marine, sydd wedi gweithio ochr yn ochr â Morlais am dros 18 mis, oedd yn gyfrifol am adleoli’r bwi yn dilyn cyfnod o adnewyddu. Cafodd y bwi ei ddefnyddio am y tro cyntaf ar y safle gan y Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol (MCRP) Menter Môn, a gafodd ei arwain gan Menter Môn, yn 2023.
Roedd Oliver Bethwaite, Cyfarwyddwr Gweithredu Leask Marine, yn croesawu’r newyddion am yr ail-lansiad llwyddiannus, meddai: “Rydyn ni’n falch iawn o barhau â'n gwaith gyda Morlais ar brosiect mor bwysig. Mae’r dechnoleg ar y bwi Marinus yn dangos sut y gall peirianneg forol arloesol gefnogi gwaith monitro amgylcheddol yn y sector ynni adnewyddadwy."
Cwblhawyd yr uwchraddiadau gan yr arbenigwr acwstig morol, Seiche yn unol â chontract integreiddio, monitro a lliniaru (SIMA) y system, mewn partneriaeth â'r cwmni monitro tanddwr, MarineSitu. Roedd yr uwchraddiadau yn cynnwys delweddu sonar, monitro acwstig, a thechnoleg fideo. Bydd y system yn casglu data hanfodol a fydd yn sicrhau bod mamaliaid ac adar morol yn cael eu diogelu wrth i brosiect Morlais ddod yn weithredol.
Bydd systemau ar y bwi hefyd yn cyfrannu at waith MarineSitu o fireinio technolegau monitro sy'n cael eu rhedeg gan Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) ac i ddiweddaru Cynllun Monitro a Rheoli Amgylcheddol Morlais (EMMP). Mae hyn yn sicrhau y gall y prosiect addasu i'w anghenion wrth iddynt esblygu yn ogystal â rhai'r diwydiant ynni llanw ehangach.
Dywedodd Helen Roberts, Rheolwr Prosiect MCRP Menter Môn: "Mae hyn yn gam sylweddol ymlaen i ni ac i'r sector ynni llanw yn gyffredinol. Bydd y data rydym yn gasglu o’r bwi yn helpu i sicrhau bod bywyd gwyllt morol yn cael ei amddiffyn yn effeithiol tra’n gwella monitro amgylcheddol o fewn y sector hefyd."
Bydd canfyddiadau o genhadaeth bresennol y bwi ar gael i brosiectau ynni llanw ledled y byd gyda'r nod o hyrwyddo twf y sector. Mae disgwyl i'r dyfeisiau ynni llanw cyntaf gael eu defnyddio ym mharth Morlais o 2026.