Technoleg a ynni llanw
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Technoleg a ynni llanw
Dydd Gwener Mai 31, 2024
Technoleg rithwir yn dod ag ynni llanw yn fyw i ddisgyblion
Wrth i blant ysgol ar draws y byd ddathlu Diwrnod Cefnfor y Byd (World Ocean Day), mae disgyblion yn Ynys Môn yn cael cipolwg ar fywyd o dan y môr diolch i dechnoleg VR newydd.
Fel rhan o raglen cyswllt ysgolion Menter Môn Morlais mae plant yn cael eu cludo i fyd ynni adnewyddadwy, ble maen nhw yn gallu cael golwg agosach ar dechnoleg ynni'r llanw a chael cipolwg ar fywyd mamaliaid morol.
Mae Fiona Parry yn swyddog prosiect sgiliau a hyfforddiant gyda Menter Môn. Mae hi'n arwain ar ymweliadau ysgol ac yn gweithio gyda disgyblion i ddangos iddynt sut y gall Morlais leihau carbon trwy gynhyrchu trydan glân. Yn ogystal â dysgu am sut y gall ynni’r llanw fynd i’r afael â newid hinsawdd, mae disgyblion hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i ddatblygu eu dealltwriaeth am gynaliadwyedd a gwyddoniaeth. Dywedodd: “Mae’n ymweliadau ysgolion yn rhan bwysig iawn o’n gwaith yma yn Morlais ac yn gyfle i ni fynd â'n stori allan i blant a phobl ifanc yr ardal. Rydyn ni’n siarad am sut y byddwn ni’n cynhyrchu trydan ond hefyd gobeithio y gallwn ni ysbrydoli’r bobl ifanc i feddwl am yrfaoedd yn y sector newydd yma.” Gyda phwyslais ymarferol ar ynni cynaliadwy, mae'r ymweliadau yn rhan o’r ymrwymiad i gefnogi cymunedau lleol a datblygu ymwybyddiaeth amgylcheddol.
Maen nhw’n addysgu disgyblion am realiti newid hinsawdd a’r rôl y gall ynni adnewyddadwy ei chwarae wrth leihau allyriadau carbon. Wedi’i reoli gan y fenter gymdeithasol, Menter Môn, Morlais yw’r safle ynni llanw mwyaf gyda chaniatâd yn y DU.
Mae’r gwaith adeiladu ar is-orsaf Morlais ar Ynys Cybi eisoes wedi’i gwblhau, ac mae disgwyl i’r tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn y môr yn 2026. Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae hefyd wedi sicrhau cyllid gan NDA - Awdurdod Datgomisynu Niwclear ac wedi ei gefnogi gan Gyngor Sir Ynys Môn ac Uchelgais Gogledd Cymru.