Traciwr adar solar

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Traciwr adar solar

Dydd Mercher 31ain o Orffennaf, 2024 

Cynllun ynni llanw yn treialu traciwr adar solar

Mae dyfeisiadau ynni solar bach wedi cael eu gosod ar adar oddi ar arfordir Ynys Môn, er mwyn olrhain patrymau mudo ac ymddygiad. Fel rhan o’r prosiect ymchwil nodweddu morol (MCRP) dan arweiniad Menter Môn, bydd y wybodaeth sy’n cael ei gasglu yn helpu sicrhau bod dyfeisiau ynni llanw o fewn cynllun Morlais yn cael eu gosod a'u defnyddio’n ddiogel.

Mae’r trosglwyddyddion, sydd wedi’u gosod ar goesau adar a’u pweru gan bâr o baneli solar bach, wedi’u datblygu gan yr RSPB i gasglu gwybodaeth am symudiadau Gwylogod oddi ar yr arfordir ger Ynys Lawd ar Ynys Môn. Y nod yw helpu tîm Menter Môn Morlais i gael gwell dealltwriaeth o adar y môr fel rhan o’u hymdrechion i ddiogelu bywyd gwyllt lleol yn ystod datblygiad y cynllun ynni adnewyddadwy.

Eglurodd Helen Roberts, arweinydd prosiect MCRP gyda Menter Môn: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous yn ein hymchwil, ac rydym wrth ein boddau bod y teclynau wedi’u gosod yn llwyddiannus ar y Gwylogod. Rydym yn edrych ymlaen rwan at ddeall mwy am yr adar hyn wrth ddadansoddi a phrosesu’r data.

“Mae sicrhau ein bod ni’n gwarchod bywyd gwyllt morol wastad wedi bod yn bwysig i ni wrth gyflawni cynllun ynni llanw Morlais. Dyma pam y sefydlodd Menter Môn MCRP, gan ddod ag arbenigwyr o feysydd gwahanol at ei gilydd fel bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf pan ddaw’r amser i osod dyfeisiau llanw yn y môr.”

Mae’r dyfeisiadau ar y modrwyau ar goesau’r adar yn trosglwyddo data gan ddefnyddio rhwydwaith LoRaWan (Long Range Wide Arae Network). Mae hyn yn golygu, pryd bynnag y bydd aderyn sy’n gwisgo un yn dod o fewn cyrraedd y rhwydwiath, byddent yn trosglwyddo’r data i’w ddadansoddi. Mae’r paneli solar bach yn golygu bod ganddynt botensial i ddarparu data dros gyfnod o sawl blwyddyn.

Ychwanegodd Nigel Butcher, Uwch Swyddog Technegol gyda’r RSPB: “Mae llawer o’n dealltwriaeth o symudiadau adar y môr yn seiliedig ar ddyfeisiadau tracio byrhoedlog sydd wedi’u gosod ar gefn aderyn. Mae’r rhain, fel arfer, yn datgysylltu o fewn wythnos neu ddwy, felly roedd angen dyfais i’n helpu i fonitro’r adar dros gyfnodau hirach. Mae’r modrwyau a’r celloedd solar a’r defnydd o dechnoleg LoRa yn ein galluogi ni i wneud hyn.

“Rydyn ni’n sicr yn torri tir newydd trwy gosod y dechnoleg yma ar goesau’r adar. Mae ganddo’r potensial hefyd i gael ei ddefnyddio er lles rhywogaethau eraill hefyd, nid dim ond adar. Y gobaith yw y gall helpu ni i ateb cwestiynau ymchwil mawr ac amddiffyn llawer o rywogaethau sydd mewn perygl difrifol.”

Mae’r RSPB eisoes yn derbyn data gan y Gwylogod sydd â thag fel rhan o’r treial, a bydd y wybodaeth sy’n cael ei drosglwyddo i gael ei ddadansoddi yn cynnig dealltwriaeth well i wyddonwyr o’u bywyd ar y môr.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu trwy Ystad y Goron a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.


Pob Newyddion