Ynni Morol Cymru a Morlais
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Ynni Morol Cymru a Morlais
Dydd Gwener Mehefin 30ain, 2023
Cytundeb rhwng Ynni Morol Cymru a Morlais
Gyda’r nod o hybu’r sector ynni adnewyddol, mae Ynni Morol Cymru (MEW) a Morlais wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yr wythnos hon.
Mae MEW, yn fenter sy’n cefnogi twf y sector ynni morol ac yn rheolwr yr Ardal Brawf Ynni Morol (META) gwerth £2.7 miliwn. Mae Morlais yn brosiect ynni llanw 240MW oddi ar arfordir Ynys Môn.
Eu diddordeb cyffredin mewn datblygu adnoddau ynni adnewyddol o’r môr sy’n dod â’r ddwy fenter yma at ei gilydd, yn benodol datblygu adnoddau ynni llanw yng Nghymru. Nod y bartneriaeth fydd mynd i’r afael â’r heriau maen nhw’n eu rhannu ac annog cyfnewid gwybodaeth ac arfer dda er mwyn rhoi Cymru ar y map o ran y sector yma.
“Mae Morlais yn brosiect o bwysigrwydd cenedlaethol fydd yn galluogi datblygiadau mewn technoleg llanw fydd yn bwydo trydan glân i’r grid yng Nghymru. Mae MEW yn falch o gefnogi’r prosiect, ac mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn ein galluogi ni i rannu popeth rydym ni wedi’i ddysgu wrth sefydlu META hyd yma. Mae’n gyfle i gadarnhau rhwydwaith canolfannau prawf Cymru ar gyfer arloesi a masnachu,” meddai Tom Hill, Rheolwr Rhaglen gyda MEW.
Rhai o’r meysydd sy’n allweddol i’r cydweithio yw hyrwyddo gallu a datblygu sgiliau, seilwaith porthladd, buddsoddiad a chyllid grid, a meithrin cysylltiadau gyda rhanddeiliaid rhanbarthol. Bydd y ddwy fenter yn edrych ar sut y gallent ddefnyddio adnoddau ynni yn lleol, denu buddsoddiad a symleiddio prosesau cynllunio.
Mae nifer o amcanion wedi cael eu cytuno arnynt, gan gynnwys META yn darparu cymorth a gweithdai i Morlais, rhannu gwybodaeth monitro amgylcheddol, a chefnogi ei gilydd ar sianeli digidol.
Dywedodd Gerallt Llewelyn Jones, Cyfarwyddwr Morlais: “Wrth gyfuno ein cryfderau a’n harbenigedd, mae MEW a Morlais yn creu tîm cryf i roi hwb i’r sector ynni morol. Mae’r bartneriaeth yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddatblygiadau cynaliadwy ac i wneud Cymru yn arweinydd mewn ynni adnewyddol. Drwy weithio efo’n gilydd, rydan ni’n gallu datrys problemau a chreu cyfleoedd fydd o fudd i gymunedau Cymru ac i newid hinsawdd.”
Gyda’r gwaith ar y seilwaith y tir a gosod ceblau bellach bron a’i gwblhau, mae disgwyl i dyrbinau cyntaf Morlais gael eu gosod yn 2026.