Cynllun Partner Gwerthfawr
Cartref > Addysg > Hyfforddiant a Sgiliau > Cynllun Partner Gwerthfawr
Menter Môn Morlais Cyf Yn Ymrwymo i Gynllun Partner Gwerthfawr Ysgol gydag Ysgol Uwchradd Caergybi
Mae Menter Môn Morlais yn gyffrous i gyhoeddi ei phartneriaeth ddiweddaraf gydag Ysgol Uwchradd Caergybi fel rhan o gynllun Partner Gwerthfawr Ysgol Gyrfa Cymru. Mae’r cydweithrediad hwn yn anelu at ysbrydoli myfyrwyr ac yn eu cefnogi i archwilio ystod eang o gyfleoedd gyrfa trwy roi profiadau go iawn sy'n gysylltiedig â phrosiectau’r diwydiant.
Fel cam cyntaf yn y bartneriaeth, cyflwynodd Fiona Parry, Swyddog Sgiliau a Hyfforddiant brosiect Morlais i holl staff yr ysgol. Yn sgil hyn, cynhaliwyd dau gyfarfod buddiol gydag adrannau Dylunio a Thechnoleg a’r Gwyddoniaeth. Bydd y bartneriaeth hon yn cychwyn yn swyddogol gyda phrosiect cyffrous ar gyfer disgyblion Blwyddyn 9, dan arweiniad yr adran Dylunio a Thechnoleg. Bydd y prosiect yn cynnwys ymweliad arbennig â’n his-orsaf cyn y Nadolig, gan roi cipolwg unigryw i’r disgyblion ar y sector ynni. Yn dilyn hyn, byddant yn gweithio ar brosiect ysgol yn seiliedig ar brosiect Morlais, gan roi profiad ymarferol iddynt o’r byd ynni adnewyddadwy a pheirianneg.
Dywedodd Fiona Parry “Mae’r bartneriaeth hon wedi bod yn bosibl diolch i John Edwards o Gyrfa Cymru. Mae ei gefnogaeth yn amhrisiadwy wrth drefnu digwyddiadau a meithrin cydweithrediad rhwng Menter Môn Morlais ac Ysgol Uwchradd Caergybi. Hoffwn hefyd ddiolch i’r staff yn Ysgol Uwchradd Caergybi am eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i’n cynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.”
Ym mis Ionawr, bydd Menter Môn Morlais yn cymryd rhan yng ngŵyl yrfaoedd yr ysgol, sy’n gam arall ar ein taith i gynnig cyfleoedd addysgol i bobl ifanc Caergybi a meithrin diddordeb mewn sectorau fel ynni adnewyddadwy a thechnoleg.
Dywedodd John Edwards, cynghorydd ymgysylltu busnes gyda Gyrfa Cymru, am y bartneriaeth “Mae’n wych gweld Menter Môn Morlais ac Ysgol Uwchradd Caergybi yn cysylltu fel rhan o’r fenter Partner Gwerthfawr Ysgol. Trwy gydweithio, gallant ddarparu profiadau gyrfaol ystyrlon sy’n ehangu gorwelion myfyrwyr ac yn eu hysbrydoli ar gyfer eu dyfodol.”
Mae Menter Môn Morlais yn edrych ymlaen at adeiladu partneriaeth hirhoedlog gydag Ysgol Uwchradd Caergybi, gan gefnogi llwybrau dysgu myfyrwyr a chreu cysylltiadau gwerthfawr rhwng addysg a’r diwydiant ynni adnewyddadwy.