Croesawu cyhoeddiad Stena
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Croesawu cyhoeddiad Stena
Morlais yn croesawu cyhoeddiad Stena am fuddsoddiad Caergybi
Mae prosiect ynni llanw Ynys Môn, Morlais wedi croesawu cyhoeddiad Stena Line yr wythnos hon am ei gynlluniau buddsoddi sylweddol ar gyfer Caergybi. Ar ôl chwarae rhan allweddol mewn trafodaethau cynnar i sicrhau capasiti grid ar leoliad yr hen safle gwaith alwminiwm, mae perchennog Morlais, sef Menter Môn bellach yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda Stena.
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Andy Billcliff, Prif Weithredwr Menter Môn Morlais Cyf: “Rydyn ni’n falch ein bod wedi cyfrannu at y trafodaethau sydd wedi galluogi Stena i gyrraedd y garreg filltir gyffrous hon. Mae'r buddsoddiad hwn yn hwb mawr i'r economi leol ac yn gam cadarnhaol o ran creu swyddi ar yr ynys, sy’n dangos gwerth gweithio mewn partneriaeth i sicrhau l hirdymor i'r rhanbarth."
O'r cychwyn cyntaf, mae Morlais wedi canolbwyntio ar sicrhau bod ei gysylltiad trydan ar y môr yn cael ei integreiddio â chynlluniau ar gyfer ynni cynaliadwy yn ogystal â hwyluso twf economaidd yr ardal. Gyda'r is-orsaf ger Caergybi wedi'i gwblhau a chytundebau ar waith gyda phedwar datblygwr tyrbin, bydd y cynllun yn dechrau cynhyrchu trydan glân o 2026.