Gwleidyddion Gogledd Cymru
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Gwleidyddion Gogledd Cymru
Dydd Mercher Ebrill 5ed, 2023
Gwleidyddion gogledd Cymru yn ymweld â safle Morlais
Roedd tîm Morlais yn falch o groesawu Janet Finch-Saunders AS a Virginia Crosbie AS i’r safle adeiladu’r wythnos hon i weld y gwaith sy’n digwydd yno ar hyn o bryd. Roedd yr ymweliad yn gyfle i’r ddwy ddysgu am y prosiect a’i botensial i gynhyrchu ynni adnewyddadwy glân.
Yn ystod eu hymweliad, cafodd yr aelodau daith o amgylch y safle adeiladu ac roedd yn gyfle iddynt weld y cynnydd sydd wedi’i wneud ar y prosiect. Roedd hefyd yn gyfle iddynt gyfarfod â’r tîm gan ddysgu mwy am y dechnoleg fydd yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan yno.
Dywedodd Prif Weithredwr Morlais, Andy Billcliff: “Roedden ni’n falch iawn o allu cynnal yr ymweliad yr wythnos hon gan ddangos y gwaith sy’n parhau ar brosiect ynni llanw Morlais i’r ddwy. Mae’n brosiect cyffrous sydd â’r potensial i gynhyrchu swm sylweddol o ynni adnewyddadwy yn ogystal â bod o fudd i economi’r rhanbarth yma. Cafodd Janet Finch-Saunders a Virginia Crosbie gyfarfod â chynrychiolwyr Jones Bros, ein contractwr a rhai o’r gweithlu lleol sy’n cael eu cyflogi ar y safle – gan roi cipolwg iddynt ar y cyfleoedd newydd sydd eisoes yn cael eu gwireddu yma.”
Mae prosiect Morlais yn rhan allweddol o ymrwymiad Cymru i fod yn economi carbon sero-net erbyn 2050. Mae disgwyl i’r prosiect greu budd economaidd sylweddol i’r ardal leol a chreu swyddi newydd a chyfleoedd cadwyn gyflenwi yn y sector ynni adnewyddadwy. Wedi ei gwblhau, mae gan y prosiect y potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan.
Mae Morlais yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn, Bargen Twf Gogledd Cymru, yn ogystal â’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.