Morlais ar lwyfan ryngwladol

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Morlais ar lwyfan ryngwladol

Dydd Iau Mehefin 1af, 2023

Morlais ar lwyfan ryngwladol Cynhadledd Rhanbarthau Morol

Cynhaliwyd cynulliad cyffredinol Cynhadledd Rhanbarthau Morol (CPMR) yr Atlantic Arc Commission yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Cafodd Morlais le ar frig yr agenda gyda’r Prif Weithredwr, Andy Billcliff yn cymryd rhan mewn sesiwn ar gydweithio ar ynni adnewyddadwy morol.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddathlu’r bartneriaeth rhwng rhanbarthau’r Iwerydd wrth daclo heriau newydd a rhai mwy hir dymor, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd, Brexit, a’r rhyfel yn yr Wcrain. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i fod yn llwyr ddibynnol ar ynni adnewyddadwy erbyn 2035 yn ystod y gynhadledd.

Roedd cynrychiolwyr o lywodraethau’r DU, Ewrop a Chanada yn bresennol yn y digwyddiad, gan ddod â 150 o ranbarthau o 24 gwlad at ei gilydd, gan gynrychioli tua 200 miliwn o bobl. Mae’r CPMR a sefydlwyd ym 1973, yn gweithredu fel melin drafod ac yn lobio ar ran rhanbarthau trwy ei rwydwaith o gysylltiadau o fewn yr UE a llywodraethau cenedlaethol.

Clywodd y cynadleddwyr am Morlais mewn sesiwn ar ‘Meithrin Cydweithio ar Ynni Adnewyddadwy Morol yn yr Iwerydd’. Mae Andy Billcliff yn egluro: “Roedd hwn yn gyfle pwysig i ni i godi proffil Morlais ar lwyfan rhyngwladol ac i ddangos y gwaith sy’n digwydd yma yng Nghymru wrth i ni gymryd camau cadarnhaol yn y daith i gynyddu defnydd o ynni adnewyddadwy.

“Roedden ni’n falch o fod yn y gynhadledd proffil uchel hon, yn cynrychioli Cymru ac Ynys Môn. Roedd llawer o ddiddordeb yn Morlais yn y sgyrsiau niferus gefais gyda chyfoedion o bob rhan o’r sector, gan gynnwys gyda Llywodraeth Cymru a chysylltiadau  a phartneriaid rhyngwladol eraill.”

Cynhaliwyd y gynhadledd mewn sawl iaith gan gynnwys Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Portiwgaleg a Sbaeneg a chlywodd cynadleddwyr gan Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru a Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi. Fe gymerodd y ddau’r cyfle i gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda’u partneriaid rhyngwladol i fynd i’r afael â’r prif faterion dan sylw yn y gynhadledd, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, natur a democratiaeth.


Pob Newyddion