Mwy o wobrau i Morlais
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Mwy o wobrau i Morlais
Dydd Gwener 5ed Hydref, 2024
Morlais yn dathlu yng Ngwobrau Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru (ICE).
Bu cynllun ynni llanw Gogledd Cymru, Morlais, yn llwyddiannus yng Ngwobrau Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru (ICE) a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Ngwesty'r Marriott, Caerdydd. Mae’r cynllun yn cael ei reoli gan fenter gymdeithasol, Menter Môn, ac enillodd wobr Alun Griffiths am Ymgysylltiad Cymunedol.
Mae Gwobrau ICE yn dathlu llwyddiannau yn niwydiant adeiladu Cymru. Cytunodd y beirniaid fod Morlais, gyda’i bartneriaeth â’r contractwr Jones Bros Civil Engineering UK, yn sefyll allan am ei ymdrechion eithriadol i ymgysylltu â’r gymuned yn ystod y gwaith o adeiladu seilwaith y prosiect. Mae'r wobr yn cydnabod yr ymrwymiad i ddatblygu perthnasoedd cryf gyda chymunedau lleol, gan sicrhau cyfathrebu agored a lleihau'r aflonyddwch trwy gydol y broses adeiladu.
Wrth dderbyn y wobr, diolchodd Ian Hughes, Rheolwr Busnes Menter Môn Morlais Cyf, i’r tîm a dywedodd: “Rydym wrth ein bodd i gael ein cydnabod ar gyfer y wobr Ymgysylltu â’r Gymuned. Drwy gydol y gwaith o adeiladu seilwaith y prosiect ac mewn cydweithrediad â Jones Bros Civil Engineering, roedd ymgysylltu â’r gymuned leol yn rhan allweddol o ddatblygu perthynas gref gyda’r gymuned leol. Fel cwmni trydydd sector, mae Menter Môn wedi ceisio sicrhau bod y gymuned leol a buddion cymunedol yn parhau i fod yn greiddiol iddynt wrth ddatblygu prosiect Morlais, ac rydym yn falch o fod wedi cael ein cydnabod yn ein gwaith gyda’r gymuned leol gan yr ICE"
Dywedodd uwch reolwr contractau Jones Bros, Brendan Fieldhouse, a oruchwyliodd y cynllun: “Mae’n wych bod Morlais wedi wedi cael llwyddiant yn y wobr hon. Gwyddom o'n hamser yn gweithio ar y prosiect pa mor bwysig oedd ymgysylltu â'r gymuned.
“Er enghraifft, bydd ffyrdd yn cael eu cau ar gynlluniau fel hyn, ond mae esbonio’r broses i bobl yr effeithir arnynt yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod eu barn a’u lleisiau’n cael eu clywed.”
Gyda'i fodel gweithredu unigryw, mae Morlais yn cael ei ystyried fel cynllun sydd ar flaen y gad o ran y sector ynni'r llanw. Mae disgwyl i'r tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn y môr o 2026. Mae'r tîm ynni yn Menter Môn yn gweithio gyda datblygwyr technoleg ynni llanw ar hyn o bryd i sicrhau bod hyn yn digwydd, tra hefyd yn creu budd lleol. Ariannwyd cam cyntaf Morlais gan gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Sir Ynys Môn, yr NDA a Chynllun Twf Gogledd Cymru hefyd yn cefnogi'r prosiect.