Nghynhadledd MEW

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Nghynhadledd MEW

Dydd Gwener Mawrth 31ain, 2023

Croesawu’r Prif Weinidog a Gweinidogion Newid Hinsawdd ar stondin Morlais yng Nghynhadledd MEW

Yn ddiweddar fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Julie James y Gweinidog Newid Hinsawdd ymweld â thîm Morlais yng nghynhadledd Ynni Morol Cymru yn Arena Abertawe. Roedd arbenigwyr y diwydiant, llunwyr polisi ac ymchwilwyr yn bresennol yn y gynhadledd i drafod dyfodol ynni morol a’i effaith bosibl ar economi Cymru.

Yn ystod ei ymweliad, mynegodd y Prif Weinidog ei gefnogaeth i ddatblygu prosiectau ynni morol yng Nghymru a’r rhan bwysig y maent yn ei chwarae yn y newid i economi carbon isel. Fe rodd ganmoliaeth i Menter Môn am ei hymdrechion i hybu twf y diwydiant ynni morol yng Nghymru a chyfraniadau’r mudiad drwy ddatblygiad prosiect ynni llanw Morlais oddi ar arfordir Ynys Môn.

Yn ystod ei araith yn y gynhadledd tynnodd y Prif Weinidog sylw hefyd at gyflawni Contract ar gyfer Gwahaniaeth Magallanes ar safle Morlais y llynedd.

Croesawodd John Jenkins, Cyfarwyddwr Morlais, y ddau i’r stondin, dywedodd: “Roeddem wrth ein bodd bod Mark Drakeford a Julie James wedi dod i ymweld â ni yn Abertawe’r wythnos ddiwethaf. Mae eu cefnogaeth i’r sector ynni morol yn hollbwysig, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio i greu dyfodol cynaliadwy a llewyrchus i Gymru.”

Mae prosiect ynni llanw Morlais yn fuddsoddiad sylweddol yn natblygiad ynni adnewyddadwy, mae ganddi’r potensial i gynhyrchu hyd at 240 MW o ynni glân. Mae’r prosiect wedi derbyn cefnogaeth gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, ac mae disgwyl iddi fod yn effaith gadarnhaol ar yr economi leol trwy ddarparu cyfleoedd i gyflogi’n lleol a chadwyn gyflenwi.

Mae Morlais yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn, Bargen Twf Gogledd Cymru, yn ogystal â’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.


Pob Newyddion