Prosiect Ynni Llanw

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Prosiect Ynni Llanw

Dydd Mawrth Ebrill 25ain, 2023

Clwb pêl-droed Caergybi yn canmol prosiect ynni llanw

Mae Morlais wedi derbyn neges o ddiolch gan Glwb Pêl-droed Holyhead Hotspur yng Nghaergybi yn dilyn gwaith ar y safle ger cae’r clwb yn y dref.

Wrth i waith ar y safle penodol hwn ddod i ben a’r compownd yn cael ei wagio, dywedodd Davey Hughes, cynrychiolydd o’r clwb: “Mae timau Morlais, Jones Bros a Cadarn wedi bod yn anhygoel ac mae wedi bod yn braf eu cael fel cymdogion am y 15 mis diwethaf. Mi fyddwn yn drist wrth feddwl am beidio â gweld cerbydau gwyrdd Jones Bros yn mynd heibio’r clwb bob dydd. Rydym eisiau diolch i bawb am eu gwaith ac am weithio gyda ni i leihau unrhyw effaith ar y clwb.

Mynegodd Davey ei ddiolch i Morlais a’r contractwyr am eu gwaith ar y safle. Mae wedi canmol y tîm am eu parodrwydd i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau a gododd yn ystod y gwaith, ac yn arbennig felly am osod goliau newydd sbon ar gae’r tîm iau.

Ychwanegodd Gerallt Llewelyn Jones, cyfarwyddwr gyda Morlais: “Rydym yn ddiolchgar i bawb yng Nghlwb Pêl-droed Caergybi am weithio efo ni tra’n bod ni wedi ein bod yn gweithio o’r safle ger eu cartref. Mae bod yn bartner cyfrifol yn y gymuned yn bwysig iawn i ni, roedden ni wrth ein bodd felly yn derbyn geiriau caredig Davey.”

Mae Morlais wedi bod ar y safle ger Holyhead Hotspur ers mis Chwefror 2022, roedd prif gompownd gwaith Jones Bros a swyddfa’r safle wedi’u lleoli yn y clwb tra bod gwaith yn mynd yn ei flaen gerllaw ym Mharc Cybi.


Pob Newyddion